Prifysgol hoyw-gyfeillgar

Aberystwyth o Consti.

Aberystwyth o Consti.

20 Gorffennaf 2012

Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith y 5 coleg prifysgol mwyaf hoyw-gyfeillgar yn y DU yn ôl mudiad Stonewall.

Mae Gay by Degree 2013 yn adnodd ar-lein sy'n darparu gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr lesbiaidd a hoyw am yr hyn sydd gan bob prifysgol i’w gynnig iddynt, cyn iddynt wneud cais am le yn 2013.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, derbyniodd Aberystwyth farciau llawn.

Mae Gay By Degree (www.gaybydegree.org.uk) yn defnyddio 10 maen prawf i fesur pa mor dda mae prifysgolion yn  cefnogi pobl hoyw, gan gynnwys a oes ganddynt bolisi i fynd i'r afael â bwlio homoffobig, a oes cymdeithasau a digwyddiadau ar gyfer pobl lesbiaidd, myfyrwyr hoyw a deurywiol, ac a ydynt yn cefnogi staff hoyw yn effeithiol. Daeth  Aberystwyth a Chaerdydd i’r brig ynghyd ȃ sefydliadau eraill gan gynnwys Coleg Prifysgol Llundain, Portsmouth, Glasgow a Salford.

Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Pwyllgor Amrywiaeth a Chydraddoldeb:

“Mae hwn yn ganlyniad gwych sydd yn dilyn ein cyfraniad i ddigwyddiad  Aberystwyth Pride a gynhaliwyd ar y Prom am y tro cyntaf ym mis Mehefin. Fe weithiodd y Brifysgol mewn partneriaeth â AberLGBT, Cyngor Tref Aberystwyth, mudiadau gwirfoddol eraill, busnesau bach a chanolig a sefydliadau'r sector cyhoeddus.

“Rydym yn falch o gael y fath ymdeimlad cryf o gymuned yn ymwneud â materion cydraddoldeb ac amrywiaeth, a diwylliant lle mae parch a dealltwriaeth yn cael eu meithrin ac amrywiaeth ein cymuned yn cael ei ddathlu."

Dywedodd Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, Andrew White: “Am y drydedd flwyddyn yn olynol, safle Gay By Degree yw'r unig le lle gall darpar fyfyrwyr hoyw ddod o hyd i bopeth y mae angen iddynt wybod am eu dewisiadau mewn un lle ar-lein. Rydym yn falch bod dau o brifysgolion Cymru wedi sgorio marciau llawn ac yn parhau i ddarparu ystod eang o gymorth ar gyfer myfyrwyr hoyw a deurywiol.”

Gall pobl sy'n cofrestru ddefnyddio'r safle yn rhad ac am ddim,  i greu rhestrau byr o'r prifysgolion fel y gallant gymharu eu dewisiadau. Gall myfyrwyr presennol hefyd gofrestru i rannu gwybodaeth am eu profiadau.

AU22612