Gŵyl Shakespeare y Byd

Ar y llwyfan: Yr Athro Mike Pearson (chwith) a Mike Brooks.

Ar y llwyfan: Yr Athro Mike Pearson (chwith) a Mike Brooks.

10 Awst 2012

Mae Mike Pearson, Mike Brookes a Simon Banham o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth yn llwyfannu perfformiad amlgyfrwng o Coriolan/us fel rhan o Ŵyl Shakespeare y Byd.

Coriolan/us yw 21ain cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’n un o uchafbwyntiau Gŵyl Llundain 2012 ac yn cael ei lwyfannu mewn hangar awyrennau ym Mro Morgannwg rhwng 8-11 a 15-18 Awst 2012.

Dyma’r tîm y tu ôl i gynhyrchiad arobryn Theatr Genedlaethol Cymru The Persians.

Bydd y cynhyrchiad hwn o Coriolanus Shakespeare - llwyfaniad cyntaf National Theatre Wales o ddrama gan Shakespeare - hefyd yn gwneud defnydd o addasiad Bertholt Brecht o’r 1950au, Coriolan, gan amlygu rôl y bobl ac effaith gwrthdaro oddi mewn ac ar boblogaeth ddinesig mewn sefyllfaoedd gwleidyddol cyfoes.

Coriolanus yw’r drasiedi a ysgrifennwyd gan Shakespeare ac sydd yn seiliedig ar fywyd yr arweinydd chwedlonol Rhufeinig, Caius Marcius Coriolanus.

“Mae stori Coriolanus yn fy hudo oherwydd mae’n creu anesmwythodd ac yn edrych i adlewyrchu’r cyfnod yr ydym yn byw ynddo bob tro, ond eto ddim yn cynnig atebion hawdd. Mae’n mynnu ein bod yn meddwl yn wleidyddol,” eglurodd Mike Pearson.

“Yn wahanol i brif gymeriadau trasig eraill Shakespeare, anaml iawn y mae Coriolanus ar ei ben ei hun. Dim ond dwy fonolog sydd ganddo, ac ychydig iawn o gyfle i fynd i ffwrdd i fyfyrio. Mae’r cwbl yn digwydd yn gyhoeddus, ond eto mae’n gwrthod perfformio rôl i’r cyhoedd hwnnw, yn gwrthod chwarae rhan.

“Mae hynny, a lleoliad agored ac uniongyrchol iawn y ddrama - nid oes unrhyw isblotiau, ychydig iawn o olygfeydd dan do ond torf sy’n fythol bresennol - yn ei wneud yn wrthbwynt hudol i fywyd gwleidyddol cyfoes, gyda’r newyddion rownd y cloc a chyfryngau cymdeithasol, arweinyddiaeth annibynadwy ac aflonyddwch sifil.”

Wedi’u hysbrydoli gan y cyfnod lle ceir newyddion 24 awr, CCTV, ac ansefydlogrwydd gwleidyddol a therfysg, mae’r cyd-gyfarwyddwyr Mike Pearson a Mike Brookes wedi adeiladu ‘peiriant theatr’ yn Hangar 858, yn RAF St Athan. Mae’r gynulleidfa yn symud o gwmpas y gofod, gan greu eu fersiwn eu hunain o’r stori yn ôl ble y maent yn canfod eu hunain a’r hyn y maent yn ei weld a’i glywed.   

Mae Coriolan/us yn gyd-gynhyrchiad ar gyfer Gŵyl Shakespeare y Byd, a gynhyrchir gan y Cwmni Shakespeare Brenhinol i Ŵyl Llundain 2012, sydd yn parhau tan y 9fed o Fedi 2012, gan ddod ag artistiaid blaengar o ar draws y byd at ei gilydd gyda’r goreuon o’r DG.

Mae cast Coriolan/us yn cynnwys Brendan Charleson, Jonny Glynn, Nia Gwynne, Richard Harrington, Chris Jared, Richard Lynch, Rhian Morgan, John Rowley, Matthew Thomas, Gerald Tyler a Bethan Witcomb.

AU18612