Cyngor Clirio

Aberystwyth

Aberystwyth

16 Awst 2012

Wrth i filoedd o fyfyrwyr ar draws y DG dderbyn eu canlyniadau Lefel A, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyngor ar sut i ddygymod â’r broses Glirio.

Sicrhawyd dros 50,000 o lefydd mewn Prifysgolion trwy’r Clirio'r llynedd. Mae’r newidiadau a wnaed yn y cyfamser i’r broses dderbyn, ynghyd â dechrau’r cyfnod o ffioedd dysgu o £9,000 y flwyddyn yn debygol o olygu y bydd y cyfnod hwn yn adeg brysurach fyth eleni.

Mae gan y Brifysgol ganllawiau defnyddiol ar gyfer y sawl sy’n wynebu gorfod newid eu cynlluniau yn dilyn eu canlyniadau Lefel A yr wythnos hon. 

Ond sut gellir canfod y Brifysgol orau trwy Glirio UCAS?
Efallai fod gan Brifysgol Aberystwyth yr ateb.

Nododd y Dirprwy Is-ganghellor, Martin Jones: “Yr hyn sy’n allweddol i sicrhau llwyddiant yn y Clirio yw bod yn drefnus, i gaffael cymaint o wybodaeth a phosibl cyn gynted ag sy’n bosibl, ac i ofyn am gymorth. Peidiwch gor-gynhyrfu a defnyddiwch rai o’r niferus ffynonellau sydd bellach ar gael i’ch cynorthwyo yn yr adeg straenllyd hon.”

“Argymhellir gwefan Glirio UCAS gennym benodol, http://www.aber.ac.uk/en/ucasclearing/clearing2012/ ac wrth gwrs, fideo ‘Trefn Glirio'r Prifysgolion 2012 - Cyfarwyddiadau mewn Argyfwng’ ar http://www.aber.ac.uk/cy/ucasclearing/clearing2012/clearing-videos/.”

Mae Prifysgol Aberystwyth yn hapus i dderbyn galwadau oddi wrth unrhyw un sy’n ceisio cyngor ac yn enwedig y sawl sy’n chwilio am le yn y Brifysgol i astudio un o’n cyrsiau safon uchel poblogaidd.

Ymhelaetha’r Athro Jones: “Mae gan y Brifysgol lefydd ar bob un o’n cyrisau ar gyfer myfyrwyr ymroddedig a chanddynt raddau da.” 

Er mwyn hyrwyddo taith y myfyrwyr i Brifysgol, mae Prifysgol Aberystwyth wedi sefydlu Llinell Gymorth Glirio ar 01970 62 20 00. Bydd y llinell ar agor rhwng:

• 8.30yb - 7.00yp, Dydd Iau, 16eg & Dydd Gwener 17eg o Awst
• 10yb - 4yp, Dydd Sadwrn 18fed & Sunday 19eg o Awst
• 9yb-7yh, Dydd Llun 20fed tan Dydd Gwener 24ain Awst.
Gellir gwneud ymholiadau trwy e-bost at: clearing@aber.ac.uk.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ennill nifer o glodydd a gwobrau dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Y Dref Brifysgol Orau yng Nghymru a’r Brifysgol a Hoffir fwyaf ar Facebook.

Y mae yn y deg uchaf am Foddhad Myfyrwyr yn y DG yn ôl y fersiwn diweddaraf o’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol, a darpara safon addysgu a dysgu ardderchog mewn adrannau sydd ymysg y 10 uchaf ym Mhrydain am eu safonau academaidd yn ôl yr Arolwg i-Graduate yn 2012

Esbonia’r Athro Jones: “Y cyngor i ddarpar fyfyrwyr yw bod llefydd ar gael. Peidiwch cael eich brawychu, ond peidiwch oedi ychwaith - efallai ei fod yn ymddangos fel marathon, ond sbrint ydyw mewn gwirionedd, un allai arwain at sicrhau lleoliad mewn prifysgol.”

AU24112