Cic Arall i’r Bar 2012

Yr Hen Goleg, Aberystwyth

Yr Hen Goleg, Aberystwyth

17 Awst 2012

Cynhelir aduniad blynyddol Cyn-fyfyrwyr  Prifysgol Aberystwyth, Cic Arall i’r Bar, y penwythnos hwn (17-19eg Awst), ac mae’r achlysur yn argoeli am fod y gorau eto.

Ac am y tro cyntaf mae hefyd yn cynnwys aduniad blynyddol Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr.

Bydd y cyfan yn dechrau wrth y Bar tu allan i Neuadd Alexandra ar y PROM nos Wener, gyda Derbyniad Croeso yn yr Hen Goleg a chinio blynyddol Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr yn y Cwad i ddilyn.

Yn ystod dydd Sadwrn bydd cyfle i ymweld â chasgliad llyfrau prin Llyfrgell Huw Owen a dilyn taith gerdded o amgylch yr adeiladau diweddaraf a godwyd ar gampws Penglais.

Bydd staff yr Adran Gyfrifiadureg yn dangos y gwaith ymchwil diweddaraf a wnaethpwyd ym maes deallusrwydd artiffisial ac yn cyflwyno'r cyn-fyfyrwyr i robot iCub.

Yn ogystal, bydd y gwahoddedigion yn medru manteisio ar fynediad am ddim i Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol drwy gydol y penwythnos a mwynhau nofio neu sawna er mwyn adfywhau.

Daw’r diwrnod i ben mewn steil gyda Barbeciw traddodiadol Cic Arall i’r Bar a thwmpath dawns lle bydd cyfle i bawb arddangos eu dawn dawnsio.

Bydd y penwythnos hefyd yn cynnig cyfle i’r Brifysgol ddathlu haelioni ei chefnogwyr gyda derbyniad yn adeilad hyfryd newydd IBERS ar gampws Penglais.

Bydd gwahoddiad hefyd i’r rhai a raddiodd dros 50 mlynedd yn ôl i ginio dathlu yng nghanolfan gynadledda arobryn Medrus.

Ddydd Sul bydd taith dywys yn Ynys Las ar Aber y Ddyfi gyda Dr John Fish a’i wraig Dr Sue Fish a fydd yn sôn am amgylchedd morol yr ardal, ac yna yn y prynhawn bydd dangosiad o’r ffilm Ratatouille yn sinema Canolfan y Celfyddydau, ffilm a enillodd Oscar i’r cyn-fyfyriwr a Chymrawd y Brifysgol, Dr Jan Pinkava.
 
Dywedodd Julian Smyth, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Alumni: "Mae penwythnos Cic Arall i’r Bar yn  mynd o nerth i nerth ac rydym yn falch iawn o'r amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynigir yn ystod y penwythnos. Mae staff swyddfa’r alumni yn edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl i Aber unwaith eto."

Ceir mwy o wybodaeth am Cic Arall i’r Bar ar www.aber.ac.uk/bkb.

AU26112