Hairspray

Andrew Agnew, Jenny O' Leary, a Morgan Crawley fel y teulu Turnblad

Andrew Agnew, Jenny O' Leary, a Morgan Crawley fel y teulu Turnblad

21 Awst 2012

Bwrwch draw i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth cyn i’r tocynnau werthu allan ar gyfer sioe fwyaf lliwgar gorllewin a chanolbarth Cymru’r haf yma - Hairspray.

Testun: Os nad ydych wedi gweld y ddwy ffilm gyda Divine a John Travolta cewch wledd ar lwyfan  Ganolfan y Celfyddydau. Mae'n 1962 ac mae Tracy Tumblad, merch llond ei chroen o Baltimore yn ysu i ymddangos ar sioe ddawns teledu Corny Collins. Tra bod ei thad, Wilbur, yn ei hannog i ddilyn y freuddwyd, mae’i mam dew, Edna yn dweud wrthi nad yw merched fel Tracy yn canfod enwogrwydd.

Fodd bynnag, mae’r ferch benderfynol ac optimistaidd yn creu argraff ar Corny ac yn ennill lle ar y rhaglen er gwaethaf gelyniaeth cynhyrchydd maleisus y sioe, Velma von Tussle. Mae hi hefyd yn denu sylw arwr y sioe, Link Larkin sydd yn cael ei gwrso gan, Amber, merch ymwthgar Velma.

Ond nid stori wanabee cyffredin arall yn ei harddegau yw hon, mae gan Tracy rywbeth arall mewn golwg, sef - integreiddiad hiliol. Mae’n gyfnod o aflonyddwch hiliol yn yr Unol Daleithiau, a hiliaeth yn treiddio drwy bob agwedd o gymdeithas, ond mae Tracy yn benderfynol o dorri ffiniau a bachu cariad ar yr un pryd!

Mae'r perfformiad hwn yn codi'r ysbryd o’r gân agoriadol "Good Morning Baltimore" i'r diweddglo ysgubol  "You Can’t stop the Beat". Mae Jenny O 'Leary yn chwarae rôl Tracy’r dim, gan osod  safon uchel o'r dechrau. Efallai taw dim ond bychan yw Samantha Giffard (Penny Pingleton) ond mae ganddi lais mawr. Mae Andrew Agnew a Morgan Crawley (y rhieni gwallgof, Edna a Wilbur,) yn ddeuawd gomig ac yn cael blas amheuthun ar y sgript goeth sy’n llawn ffraethineb a hiwmor deifiol.

Chwaraeir Link Larkin gan Oliver Ormoson, yn seimllyd o’i goryn i’w sawdl tan iddo droi dalen newydd cyn y diwedd.  Mae Lori Haley Fox a Beth Angharad (Velma ac Amber) yn chwarae'r dihirod i’r dim ac yn canu rhai o'r geiriau mwyaf gwenwynig a gaed mewn sioe gerdd!  Swyna llais cyfoethog Arun Blair Mangat (Seaweed) y gynulleidfa yn yr ail hanner, ynghyd â chanu coeth y Dynamites.

Uchafbwynt y noson oedd perfformiad campus Marion Campbell (Motormouth Maybelle) o’r gân “I Know Where I’ve Been" gyrrodd iâs lawr fy nghefn. Perfformiwyd hon o flaen delweddau du a gwyn o frwydr y mudiad hawliau sifil yn America’r 60au, a gwnaeth argraff ddofn ar y gynulleidfa.

Mae ansawdd y darnau ensembl a’r coreograffi cystal â pherfformiadau’r West End, ac mae'r cynllun llwyfan a’r gerddoriaeth o’r radd flaenaf. Mae’r dawnsio disglair a’r gwisgoedd cyfnod lliwgar yn wledd i’r llygaid a llongyfarchiadau i'r cast am gynnal safon mor uchel drwy gydol y perfformiad llawn egni. Ar ddiwedd y sioe roeddwn i a gweddill y gynulleidfa ar ein traed yn bloeddio am fwy.

Dylid rhoi medal aur i gynhyrchiad haf Canolfan y Celfyddydau eleni am sioe ragorol ac am roi gwên ar wynebau pawb a’i profodd. Ewch draw cyn y 1af o Fedi!

AU28512