Genom iaith

Dr Simon Rodway a’r Athro Patrick Sims-Williams o Adran y Gymraeg

Dr Simon Rodway a’r Athro Patrick Sims-Williams o Adran y Gymraeg

05 Hydref 2012

Bwriad y cynllun “Datblygiad yr Iaith Gymraeg” yw creu hanes cyflawn yr iaith Gymraeg drwy ddod ag ysgolheigion perthnasol at ei gilydd a thrwy gyd-lynu ceisiadau am arian ar gyfer prosiectau digideiddio.

Gosodwyd testunau chwiliadwy o'r holl lawysgrifau rhyddiaith sy’n dyddio o’r cyfnod cyn y flwyddyn 1300 ar-lein gan Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth a pharhawyd y  gwaith hwn hyd at y flwyddyn 1425 gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Golyga hyn nawr fod modd chwilio yn electroneg am dros 3 miliwn o eiriau.

Mae'r prosiect yn cael ei gyfarwyddo gan Patrick Sims-Williams, Athro Astudiaethau Celtaidd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth. Mae’r Athro Sims-Williams hefyd yn gweithio ar gynllun sydd yn cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau sy’n ymchwilio i enwau Celtaidd hynafol yn nwyrain Ewrop.

Dywedodd yr Athro Sims-Williams: “Mae derbyn “sêl cymeradwaeth” yr Academi wedi bod o gymorth mawr i ni wrth sicrhau cyllid. Mae Cymdeithas Ymchwil y Dyniaethau Modern wedi rhoi grant o £18,000 inni benodi ymchwilwyr i gychwyn ar gyfnod diwedd y bymthegfed ganrif. Mae hyn yn dilyn 20 mis llwyddiannus wedi inni sicrhau grant o £78,000 gan Ymddiriedolaeth Leverhulme a alluogodd Adran y Gymraeg i wneud astudiaeth fanwl o Gymraeg y drydedd ganrif ar ddeg.

"Mae wedi bod yn ddiddorol gweld faint o amrywiaeth oedd o fewn yr iaith ysgrifenedig. Am y tro cyntaf, gallwn roi atebion pendant i gwestiynau fel "pryd mae’r ffurf 'amdan' yn ymddangos yn ysgrifenedig gyntaf yn lle 'am'?". (Ateb: tua 1350). Yn y pen draw bydd gennym genom cyflawn yr iaith Gymraeg."

Mae’r Athro Sims-Williams yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig ac fe'i hetholwyd ef i Gyngor yr Academi ym mis Gorffennaf 2012.
Mae cynllun prosiectau’r Academi yn cynnig ‘dynodiad rhagoriaeth academaidd i brosiectau isadeiledd mawr neu i gyfleusterau ymchwil a fwriadwyd i gynhyrchu gwaith ysgolheigaidd hanfodol'.

Mae'r cyllid diweddaraf gan yr Academi Brydeinig am gyfnod o 5 mlynedd.

AU29712