Cydnabyddiaeth BAFTA

John Hefin. Credit BAFTA Cymru.

John Hefin. Credit BAFTA Cymru.

09 Hydref 2012

Mae John Hefin, cyn-Gymrawd Dysgu mewn Ffilm yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi ennill Gwobr Arbennig BAFTA Cymru am Gyfraniad Eithriadol i Ddrama Teledu.

Roedd y wobr, a gyflwynwyd gan Elan Closs Stephens, Athro Emeritws Cyfathrebu a'r Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cydnabod cyfraniad amhrisiadwy John i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt dros gyfnod o ddeugain mlynedd.

Cynhaliwyd y seremoni BAFTA yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar ddydd Sul 30 Medi.

Ymunodd John â'r BBC fel Cynorthwyydd Cynhyrchu yn 1962, cyn mynd ymlaen i ddod yn Bennaeth Drama’r Gorfforaeth yng Nghymru.

Mae'n fwyaf adnabyddus fel creawdwr a phrif symbylydd Pobol y Cwm, yr opera sebon boblogaidd a mwyaf hir hoedlog y BBC, a ddarlledwyd gyntaf yn 1974.

Mae hefyd wedi cynhyrchu a chyfarwyddo sawl cyfres a rhaglen arobryn fel The Life a Times of David Lloyd George (gyda Philip Madoc yn serennu) ac Off to Philadelphia in the Morning (gyda Sian Phillips yn serennu).

Mae ei ffilm 1978,Grand Slam, gyda Windsor David, Hugh Griffith, Sharon Morgan, Dewi Pws Morris a Siôn Probert, wedi ennill statws cwlt.

Roedd John yn Gymrawd Dysgu mewn ffilm ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y 1990au hwyr a 2000au cynnar. Yr oedd hefyd yn Gymrawd yn Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae'n aelod o Orsedd y Beirdd ac fe dderbyniodd MBE yn 2009 am ei wasanaethau i ffilm.

Croesawodd Dr Jamie Medhurst, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, y wobr, "Fel Adran, rydym wrth ein bodd bod cyn-weithiwr a ffrind wedi cael ei gydnabod yn y modd hwn. Mae'n uchel ei barch oherwydd yr ystod eang o waith ac mae'r wobr yn cydnabod cyfraniad eithriadol John i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru."

Cyflwynwyd y seremoni wobrwyo gan gyflwynydd The One Show Alex Jones, sy'n gyn-fyfyriwr yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu ac yn Gymrawd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

AU34212