Enillyd uned greadigol

Darn o waith gan Rosie Wood

Darn o waith gan Rosie Wood

04 Rhagfyr 2012

Y dylunydd sy’n dod i amlygrwydd, Rose Wood, yw enillydd "Blwyddyn mewn Uned Greadigol" 2012 y Brifysgol.

Dewiswyd hi gan banel tebyg i Dragon’s Den a bydd yn defnyddio'r Uned flaenllaw ger Canolfan y Celfyddydau, fel canolfan i ddatblygu ei busnes - dylunio a chreu gemwaith o ansawdd uchel, sy’n foethus ond eto’n arloesol.

Dywedodd Rose: "Rwy'n gyffrous ynglŷn â lleoli fy musnes yng Nghanolfan y Celfyddydau’r Brifysgol. Mae hyn yn gyfle gwych i rwydweithio gyda doniau creadigol eraill ac mewn amgylchedd a fydd yn galluogi fy musnes i ffynnu."

Mae gwaith Rose yn ymwneud â symudiad a chyffyrddiad ac mae iddo esthetig syml ond beiddgar. Mae'r darnau’n amrywio o emwaith syml bob dydd i ddarnau unigryw, mwy o faint, gan ddefnyddio lledr, arian, tecstilau a phapur. Agwedd arall i'w gwaith dylunio yw darnau tecstil cinetig gwisgadwy graddfa fawr ar gyfer eu harddangos, perfformiadau a chomisiwn.
 
Mae'r gystadleuaeth, a oedd yn agored i unigolion neu fusnesau newydd sy'n gweithio mewn unrhyw faes yn y diwydiannau creadigol, yn cynnig blwyddyn mewn stiwdio yn rhad ac am ddim a hynny yn yr Uned Greadigol, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Tra yn yr Uned Greadigol, cefnogir Rose gan Reolwr Menter y Brifysgol, Tony Orme.

Nododd Tony: "Flwyddyn ar ôl blwyddyn, rydym wedi derbyn ymateb gwych i'r fenter hon ac nid yr enillydd yn unig all elwa o’r profiad. Mae’r Brifysgol a Chanolfan y Celfyddydau yn arbennig, yn elwa o gael talent creadigol newydd o dan yr un to. Mae’r enillwyr blaenorol i gyd wedi dewis i ymestyn eu harhosiad yn yr unedau tu hwnt i ddiwedd 'cyfnod y wobr', sy'n deyrnged wych i lwyddiant y prosiect ac rydym yn awr yn aros yn eiddgar i Rose gyrraedd."

Graddiodd Rose fel dyluniwr gemwaith o Brifysgol Middlesex a datblygodd ei sgiliau yn ystod ei amser yn gweithio gyda’r dylunydd Gwyddelig llwyddiannus, Paul Seville, yn Llundain. Mae ei chynlluniau'n ddarnau arbrofol a ysbrydolwyd gan lyfrau sbonc a ffasiwn Japaneaidd, gyda’i darnau organdi yn agor o siapiau geometrig ac yn ehangu mewn i eitemau gwisgadwy.

AU39612