Arbenigwyr yn trafod gwyddor bridio ceffylau

21 Chwefror 2013

Bydd fforwm amrywiol o berchnogion ceffylau, milfeddygon, academyddion, llunwyr polisi a myfyrwyr yn dod at ei gilydd yng nghynhadledd The Colloquium for Equine Reproduction (CFER) 2013 ym Mhrifysgol Nottingham ar Ddydd Mercher 17 Ebrill er mwyn trafod y wyddoniaeth o fridio ceffylau.

Eleni bydd y digwyddiad blynyddol yn cael ei gynnal ochr yn ochr â chynhadledd y British Society of Animal Science (BSAS), sy’n gyfle unigryw i ddwyn ynghyd gynrychiolwyr y diwydiant o bob cwr o'r byd.

Mae’r CFER yn fenter a sefydlwyd ac sy’n cael ei rhedeg gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd CFER 2013 yn siŵr o adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau blaenorol gan ei fod yn ymuno â BSAS eleni ac mae EGGTech Ltd yn falch o noddi’r achlysur.

Yng nghynhadledd BSAS bydd gwyddonwyr yn trafod yr ymchwil ddiweddaraf mewn cynhyrchu da byw, iechyd a lles a bydd yn cynnig y cyfle i CFER drafod mwy ar y materion sy'n effeithio ar atgenhedlu ceffylau. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, bydd CFER 2013 yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr y diwydiant, milfeddygon, mentrau masnachol mawr a bridwyr annibynnol llai i ddod at ei gilydd i rannu eu gweledigaeth ar gyfer ymchwil mewn fforwm cyfeillgar.

"Rydym yn falch iawn bod CFER 2013 ymuno â theulu BSAS oherwydd ein bod ni’n  rhannu athroniaeth gyffredin; i gyfathrebu gwyddoniaeth dda i bawb mewn cyfarfod difyr a chyfeillgar" meddai Dr Debbie Nash, Darlithydd mewn Ceffylau a Gwyddor Anifeiliaid yn IBERS a threfnydd y digwyddiad.

 "Drwy ymuno â BSAS gallwn gynnal CFER mewn adeilad pwrpasol sy’n ganolog o ran lleoliad, rydym yn gobeithio denu milfeddygon a bridwyr llawr gwlad o bob cwr o'r DG sy’n dymuno dysgu am a thrafod datblygiadau newydd mewn gwyddoniaeth a’u trosglwyddo nhw i'w gwaith o ddydd i ddydd ".

Ychwanegodd Dr Nash: "P'un ai ydynt yn dod o ffermydd masnachol mawr neu’n berchnogion un neu ddwy o gesig magu, mae croeso cynnes iawn i bawb fynychu CFER 2013."

Bydd CFER 2013yn cynnwys:

'Datblygiadau mewn gwyddoniaeth atcenhedlu ceffylau', gan siaradwr o fri rhyngwladol, Dr Sandra Wilsher (Labordy Cenhedlu Ceffylau Paul Mellon yn Newmarket, DG), a fydd yn amlinellu sut mae’r brych yn darparu cliwiau i broblemau newydd-anedig. Bydd Jennifer Paddison (Prifysgol Aberystwyth) yn disgrifio’r potential o drosglwyddo’r datblygiadau mewn ymchwil dynol diweddar i faes bridio ceffylau.

Bydd yr ail sesiwn 'Sut gall y diwydiant elwa o ymchwil' yn cael ei arwain gan Jos Mottershead (equine-reproduction.com; Oklahoma, UDA) sy’n arbenigwr byd eang ym maes bridio ceffylau.

Mae cost y gynhadledd yn parhau'r un pris â 2011: £ 60 y person gan gynnwys cinio a the prynhawn. Fel cynnig arbennig i groesawu CFER 2013, gwahoddir cynadleddwyr CFER 2013 i fynychu sesiynau ceffylau cynhadledd y BSAS, sy'n cael eu cynnal yn y bore. Bydd hyn yn gyfle gwych i weld beth sydd gan BSAS i'w gynnig i’r diwydiant ceffylau, academyddion, milfeddygon, darlithwyr a myfyrwyr. Bydd sesiynau ceffylau BSAS yn cynnwys cyflwyniadau ar ddatblygiadau ymchwil ym maes maeth, ymarfer ffisioleg, geneteg a mwy.

Cynhelir digwyddiad CFER 2013 rhwng 12:30-17:30 ddydd Mercher 17 Ebrill, 2013 ym Mhrifysgol Nottingham. Am fanylion ac i gofrestru ewch i www.cfer.co.uk ar-lein.

AU3913