Hwb i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg

Chwith I’r DDe: Dr Ioan Matthews, Dr Anwen Jones, Elin Jones AC a’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor.

Chwith I’r DDe: Dr Ioan Matthews, Dr Anwen Jones, Elin Jones AC a’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor.

08 Mawrth 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi sicrhau pedair darlithyddiaeth newydd dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddarparu cyfleoedd newydd ar gyfer myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r pedair swydd newydd ym meysydd Astudiaethau Gwybodaeth, Cymraeg Proffesiynol, Peirianneg Meddalwedd a'r Gyfraith yn ychwanegol at y ddeg darlithyddiaeth sydd eisoes wedi’u dyfarnu i’r Brifysgol ers 2011. Bydd deiliaid y swyddi newydd yn gyfrifol am addysgu a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn eu meysydd pwnc perthnasol.

Lansio Gofod Addysgu Newydd      
Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod lansiad gofod addysgu newydd  sydd wedi cael ei ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng nghwmni Elin Jones, AC a Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg.

Bydd yr ystafell ddysgu aml-bwrpas yn adeilad IBERS ar gampws Penglais yn adnodd defnyddiol ar gyfer myfyrwyr ac yn eu galluogi i gymryd rhan mewn seminarau a darlithoedd mewn sefydliadau gwahanol, diolch i'r dechnoleg e-ddysgu diweddaraf .

Meddai Dr Anwen Jones, Cadeirydd cangen Aberystwyth: "Rydym yn parhau i chwarae rôl allweddol wrth gefnogi staff a myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac edrychwn ymlaen at groesawu pedwar aelod newydd o staff i'n cymuned academaidd ym mis Medi 2013. Bydd y gofod dysgu newydd yn hwb sylweddol i'r ddarpariaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn fuddsoddiad gwerth chweil i’r dyfodol.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o brifysgolion sy’n datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg gyda chefnogaeth cynllun cyllid cenedlaethol y Coleg Cymraeg. Mae'r Cynllun Staffio Academaidd yn darparu cyllid i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i gyflogi staff academaidd ac i feithrin darlithwyr o safon byd-eang sy'n adnabyddus am arloesi a rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu £1 miliwn yn flynyddol am gyfnod o bum mlynedd yn y lle cyntaf i gefnogi swyddi academaidd cyfrwng Cymraeg. Rhagwelir y bydd y cynllun yn darparu dros 100 o swyddi academaidd Cymraeg Cymraeg erbyn y flwyddyn 2015-16 academaidd.

AU9813