Democratiaeth a iawnderau dynol

Thomas O. Melia

Thomas O. Melia

15 Mawrth 2013

Bydd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn cynnal darlith gyhoeddus gan Thomas O. Melia, Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cynorthwyol Adran Wladol yr Unol Daleithiau, ar ddydd Mawrth 19eg o Fawrth.

Pwnc darlith flynyddol Sefydliad Coffa David Davies (DDMI) eleni fydd ‘Is it realistic to think we can advance democracy and human rights?’ a bydd yn cael ei chynnal ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais am 6 o’r gloch yr hwyr.

Eglurodd Dr Grant Dawson, Dirprwy Gyfarwyddwr y DDMI, "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Thomas Melia. Mae ei ddarlith yn addo bod yn ddatganiad polisi pwysig am bolisi tramor yr Unol Daleithiau gan uwch ddiplomydd yng Ngweinyddiaeth Obama. Rwy'n siŵr y bydd yn codi ychydig o gwestiynau."

Dirprwy Ysgrifennydd Cynorthwyol Gwladol yn y Swyddfa Democratiaeth, Hawliau Dynol a Llafur (Bureau of Democracy, Human Rights and Labor (DRL)) yw Thomas O. Melia. Mae'n gyfrifol am waith y DRL yn Ewrop, gan gynnwys Rwsia, ac yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.

Mae wedi arwain Dirprwyaeth yr Unol Daleithiau i gyfarfodydd y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop (Organisation for Security and Cooperation in Europe - OSCE), ac wedi cyd-gadeirio cyfarfodydd grwpiau gweithio yr Unol Daleithiau/Georgia a’r Unol Daleithiau/Wcráin.

Ymunodd Thomas Melia ag Adran y Wladwriaeth yn 2010 o Freedom House lle'r oedd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol. Cyn hynny, bu mewn uwch swyddi gyda’r National Democratic Institute a’r Free Trade Union Institute yn  AFL-CIO. A chyn hynny, bu'n gweithio i’r Seneddwr Daniel Patrick Moynihan ar Capitol Hill.

Mae wedi dysgu cyrsiau ar ddemocratiaeth a hawliau dynol ym Mhrifysgol Georgetown ac Ysgol Astudiaethau Rhyngwladol Prifysgol Johns Hopkins. Cyhoeddodd nifer o erthyglau a ddarllenwyd yn eang ar faterion yn ymwneud â democratiaeth a hawliau dynol ac mae’n gyd-olygydd Today’s America: How Free? (2008).

Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw’r hynaf o’i bàth yn y byd. Cafodd ei sefydlu yn 1919, yn syth wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf ac mewn ymgais i gynorthwyo dynoliaeth i ddeall y rhesymau sy’n arwain at ryfel, gwrthdaro a dioddef. Mae’r Adran y parhau i ganolbwyntio ar y cwestiynau mawr mewn gwleidyddiaeth byd: grym, gwrthdaro, moeseg, diogelwch a chyfranogiad gwleidyddol. Caiff ei chydnabod fel cartref y ddisgyblaeth ac mae’r Adran wedi datblygu i fod y ganolfan orau yn y Deyrnas Gyfunol i astudio’r pwnc, ac mae ei staff yn ymroddedig i ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil a chynnig amgylchedd ddysgu neilltuol a deinamig.

AU10213