Noson wybodaeth Clefyd y Siwgr

Ffion Curtis (dde), sydd yn ymchwilio i gelfyd y siwgr, a Ronnie Maher sydd wedi cyfrannu at astudiaeth o ddiffyg Fitamin D ar y clefyd.

Ffion Curtis (dde), sydd yn ymchwilio i gelfyd y siwgr, a Ronnie Maher sydd wedi cyfrannu at astudiaeth o ddiffyg Fitamin D ar y clefyd.

20 Mawrth 2013

Mae Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Noson Wybodaeth Clefyd y Siwgr am 7 o’r gloch yr hwyr ar nos Iau 21 Mawrth 2013.

Mae'r noson, sy’n cael ei chynnal yn Adeilad Carwyn James yr Adran ar Gampws Penglais, wedi ei chynllunio er mwyn galluogi pobl leol sy'n byw yng nghanolbarth Cymru i gael gwybod mwy am y gofal y dylent ei ddisgwyl, y cymorth sydd ar gael a'r math o ymchwil sy'n cael ei gynnal yn y Brifysgol.

Yn ogystal ag ymchwilwyr o'r Adran ei hun, bydd arbenigwyr iechyd wrth law yn ystod y noson i ateb cwestiynau am glefyd y siwgr.

Maent yn cynnwys Ymgynghorydd Clefyd Siwgr o Fwrdd Iechyd Hywel Dda, nyrsys clefyd siwgr sy'n darparu rhaglen XPERT, cydlynydd rhaglen Ymarfer i Fyw, Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr Diabetes UK, aelodau o grŵp Diabetes UK Machynlleth ac aelodau o grŵp cyfeirio cleifion lleol.

Mae ymchwilwyr yn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn cydweithio'n agos ar ymchwil sy'n gysylltiedig ag iechyd gyda nifer o ddarparwyr iechyd lleol a sefydliadau gwirfoddol, gwaith sy'n cynnwys astudiaeth i’r cysylltiad posibl rhwng fitamin D a chlefyd siwgr math 2.

Mae'r Adran hefyd yn cynnal clinig wythnosol Retinopathi ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae'r clinig yn rhan o'r Gwasanaeth Sgrinio Retinopathi Clefyd y Siwgr Cymru.

Mae mwy na 160,000 o bobl yng Nghymru wedi cael diagnosis clefyd y siwgr, bron i 5% o'r boblogaeth.

Ar ben hynny amcangyfrifir bod 66,000 o bobl yn dioddef o’r cyflwr ond nad ydynt eto wedi cael diagnosis.

Mewn pobl sydd â chlefyd y siwgr ni all y corff wneud defnydd priodol o'r glwcos sydd yn y gwaed. Golyga hyn nad oes modd defnyddio’r glwcos yn effeithiol fel tanwydd, ac o ganlyniad ceir lefelau uwch o glwcos yn y gwaed.

Mae clefyd y siwgr math 1 yn cael ei drin gan bigiad inswlin dyddiol. Mae clefyd y siwgr math 2, sy’n cyfrif am rhwng 85% a 95% o'r holl achosion, yn cael ei drin gyda meddyginiaeth a / neu inswlin. Mae'r driniaeth a argymhellir ar gyfer pob math o glefyd y siwgr yn cynnwys bwyta’n iach ac ymarfer corf rheolaidd.

Mae'r Noson Wybodaeth yn cael ei threfnu gan Ffion Curtis, sy'n astudio effeithiau diffyg fitamin D ar glefyd y siwgr. Dywedodd: "Un o'r prif resymau yr ydym yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion o glefyd y siwgr yw bod ein ffordd o fyw yn newid."

"Mae’r hyn yr ydym yn ei fwyta wedi newid, ac rydym yn gwneud llai o ymarfer corf o lawer, ac yn treulio mwy o amser yn eistedd yn ein ceir ac o flaen sgriniau cyfrifiadur. Erbyn hyn rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y plant sy'n datblygu clefyd y siwgr math 2. Os na chaiff ei reoli a’i drin yn y modd priodol, gall clefyd y siwgr arwain at gymhlethdodau gan gynnwys clefyd y galon a strôc. "

"Fodd bynnag, gall llawer o newidiadau bychain i'n bywydau, ac i fywydau ein teuluoedd gyfrannu at leihau'r perygl o ddatblygu clefyd y siwgr, a chynorthwyo i reoli'r cyflwr."

Mae croeso cynnes (gyda the a choffi) yn cael ei estyn i bawb fyddai'n dymuno dod draw i gael gwybod mwy am glefyd y siwgr, ac ymchwil i glefyd y siwgr.

Os hoffech fynychu neu wybod mwy am y digwyddiad, cysylltwch â Ffion Curtis drwy ffonio 01970 622070, neu e-bost fic7@aber.ac.uk.


AU9713