Galw ar bob Mentrwr Busnes

O’r chwith i’r dde: Tony Orme, Rheolwr Menter, y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori;  Annie Page a James Wheldon o Gymdeithas BIZ

O’r chwith i’r dde: Tony Orme, Rheolwr Menter, y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori; Annie Page a James Wheldon o Gymdeithas BIZ

24 Mai 2013

Does dim gwahaniaeth p’un a oes gennych syniad cyffrous am fusnes, neu efallai nad ydych chi ond yn awyddus i ystyried posibiliadau hunangyflogaeth, Wythnos Cychwyn Busnes Prifysgol Aberystwyth (3 – 7 Mehefin) yw’r union beth i chi!

Y nod yw rhoi golwg cyffredinol ar y sgiliau a’r ystyriaethau hanfodol sydd eu hangen wrth ddatblygu menter newydd. Mae Wythnos Cychwyn Busnes yn cynnig cyfle i rwydweithio ac i chi gael eich rhoi ar ben y ffordd i wireddu’ch syniadau busnes.

Ar ben y gweithdai sy’n canolbwyntio ar sgiliau busnes allweddol, gan gynnwys Cynllunio Ariannol, Gwerthu, Marchnata Digidol a Datblygu Cyflenwyr, mae’r wythnos yn cynnwys cyflwyniadau i’ch ysbrydoli gan fentrwyr i fyd busnes a fydd yn siarad am eu profiadau nhw am sefydlu a datblygu busnesau llwyddiannus.  

Mae’r sesiynau ar agor i bawb, gan gynnwys myfyrwyr, staff a graddedigion Prifysgol Aberystwyth, ac fe gewch gofrestru am weithdai unigol penodol neu am bob un o’r deg sesiwn a gynhelir yn ystod yr wythnos.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion ynghylch cofrestru am un neu fwy o’r sesiynau, ar gael yn: www.aber.ac.uk/crisalis

Does dim rhaid i chi gymryd ein gair ni, dyma beth mae cynulleidfa wedi’i ddweud am Wythnos Cychwyn Busnes yn y gorffennol:

“Wythnos Cychwyn Busnes oedd yr wythnos bwysicaf a mwyaf defnyddiol hyd yn hyn ar fy nhaith i fyd busnes,” meddai Ben King, Cydsefyldwr SufaceRush, cwmni Cynhyrchu Cyfryngau a Gwe-Ddylunio a aeth i’r Wythnos Cychwyn Busnes yn 2011 pan oedd yn fyfyriwr israddedig.

AU14313