Gwobr Tîm y Flwyddyn i’r Undeb

Swyddogion Undeb Myfyrwyr Aberystwyth 2013/14. Chwith i’r Dde: Liv Prewett - Swyddog Gweithgareddau, Grace Burton - Swyddog Addysg, Ioan Rhys Evans - Llywydd yr Undeb, Laura Dickens - Swyddog Lles Myfyrwyr,  Mared Ifan - Materion Cymreig a Llywydd UMCA

Swyddogion Undeb Myfyrwyr Aberystwyth 2013/14. Chwith i’r Dde: Liv Prewett - Swyddog Gweithgareddau, Grace Burton - Swyddog Addysg, Ioan Rhys Evans - Llywydd yr Undeb, Laura Dickens - Swyddog Lles Myfyrwyr, Mared Ifan - Materion Cymreig a Llywydd UMCA

27 Mawrth 2014

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cipio dwy wobr fawr yng Ngwobrau UCM Cymru 2014, gafodd eu cynnal ar nos Fercher 26 Mawrth.

Enillodd Laura Dickens, Swyddog Lles yr Undeb, gwobr Ymgyrch y Flwyddyn am ei gwaith ar lety myfyrwyr, a dyfarnwyd gwobr Tîm Swyddogion y Flwyddyn i’r Undeb.

Roedd yr Undeb wedi ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer tair gwobr; Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn, Ymgyrch y Flwyddyn a Thîm Swyddogion y Flwyddyn.

Yn dilyn llwyddiant neithiwr, mae’r enillwyr wedi eu cynnwys ar restr fer Gwobrau UMC y Deyrnas Gyfunol.

Wedi i’r enwau ar y rhestr fer gael eu cyhoeddi, dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol; “Rwy'n falch iawn bod Undeb y Myfyrwyr a thîm swyddogion yn yr Undeb, wedi cael eu cydnabod am eu holl waith caled.

"Mae llais y myfyrwyr yn hynod o bwysig yn Aberystwyth ac yn rhan greiddiol o fywyd myfyrwyr, ac mae’r tîm o swyddogion i’w llongyfarch am ddarparu profiad gwych i bob un o’n myfyrwyr.”

Ar adeg cyhoeddi’r enwau ar y rhestr fer, dywedodd John Glasby, Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr Aberystwyth; “Rwy'n hynod falch bod Undeb Myfyrwyr Aber wedi ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau cenedlaethol, yn enwedig Undeb Addysg Uwch y Flwyddyn. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o waith caled ac ymroddiad staff a swyddogion sydd wedi profi 18 mis anodd wrth i ni geisio trawsnewid y sefydliad fel ei fod yn darparu ar gyfer anghenion myfyrwyr y dyfodol. Mae gennym ffordd bell i fynd, ond mae llawer eisoes wedi ei gyflawni ac mae'n braf iawn gweld hyn yn cael ei gydnabod gan ein cymheiriaid.”

Mae’r rhestr lawn o enillwyr i’w gweld ar wefan Gwobrau UCM Cymru 2014. Cliciwch yma.

AU13214