Yr Hen Goleg yn croesawu AberOpera

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

04 Mehefin 2014

Ddydd Gwener 6 Mehefin bydd Yr Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth yn llwyfannu Cyngerdd AberOpera o’r hen ffefrynnau i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, Elusen yr Is-Ganghellor.

Bydd y cyngerdd, sy'n dechrau am 7.30pm yn yr Hen Neuadd Arholiadau, yn cynnwys caneuon adnabyddus, ariâu, deuawdau a chytganau o lawer o'r operâu mwyaf poblogaidd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni y Brifysgol, Louise Jagger, "Rydym wrth ein bodd fod AberOpera yn cynnal digwyddiad mor bwysig yn yr Hen Goleg.

"Y nod yw denu a chroesawu'r gymuned i'r adeilad hoffus hwn yn ogystal â chodi arian i achos mor arbennig ag Ambiwlans Awyr Cymru.

"Rwy'n gobeithio y bydd y rhai sy'n dod i’r cyngerdd hefyd yn dod i weld yr arddangosfa o’n cynlluniau ar gyfer dyfodol yr Hen Goleg ac edrychwn ymlaen at gael eu hadborth a’u syniadau."

Eglurodd Joanne Julier o Gerdd Ystwyth, sy'n canu gydag AberOpera, "Ar y noson rydym yn bwriadu perfformio ffefrynnau cyfarwydd yn ogystal â darnau mwy prin, a rhoi profiad cofiadwy i bobl.”

Mae aelodau AberOpera wedi canu gyda chwmnïau opera proffesiynol megis Opera Cenedlaethol Cymru ac Opera Canolbarth Cymru yn ogystal â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Chorws Symffoni Birmingham. Mae gan nifer ohonynt hefyd brofiadau unigol a chorawl helaeth gydag ystod eang iawn o gwmnïau a chymdeithasau eraill.

Mae croeso mawr i unrhyw fyfyrwyr neu bobl leol sydd â diddordeb mewn canu, neu mewn cefnogi opera poblogaidd, i gysylltu â Joanne yn Cerdd Ystwyth, ffoniwch 01970 820157 neu anfonwch e-bost gwdihwcwrt@gmail.com

Cymeradwyodd Cyngor y Brifysgol astudiaeth dichonoldeb a gynhaliwyd ar yr Hen Goleg ym mis Gorffennaf 2013 ac mae Grŵp Prosiect yr Hen Goleg yn gyfrifol nawr am symud y prosiect yn ei flaen i’r cam nesaf. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys ystyried ffynonellau cyllido posibl a mynd i'r afael â materion cynllunio.

AU21614