Llythyrau cyfansoddwr y Wedding March wedi’i hadfer

Llythyr a llofnod Mendelssohn

Llythyr a llofnod Mendelssohn

22 Awst 2014

Mae Llythyrau a ysgrifennwyd gan Felix Mendelssohn (1809-1847), sydd fwyaf adnabyddus am sgôr y Wedding March sydd yn dal i fod y gerddoriaeth a ddefnyddir amlaf mewn seremonïau priodas heddiw, wedi eu hadfer yn ddiweddar ac ar gael i genedlaethau'r dyfodol ar gyfer astudio ac ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'r dogfennau, a adawyd i'r Brifysgol dros ganrif yn ôl drwy garedigrwydd Syr Hugh Owen a George Powell (o Nanteos 1842-1882), yn cynnwys 17 o lythyrau a dau sgôr corawl a dybir sydd wedi’i llofnodi gan y pianydd, yr arweinydd a’r cyfansoddwr Rhamantaidd o’r Almaen.

Fe wnaeth Mendelssohn ei ymddangosiad cyntaf cyhoeddus pan yn naw oed yn Hamburg, yr Almaen, ac o 11 oed, cyfansoddodd nifer enfawr o gerddoriaeth piano a siambr, gweithiau corawl yn ogystal â phum symffoni.

Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer drama William Shakespeare, A Midsummer Night’s Dream, a darn adnabyddus arall sef yr Hebrides Overture.

Eglurodd Bill Hines, Cymrawd Adrannol Gwasanaethau Gwybodaeth, "Mae'r llythyrau mewn Ffrangeg ac Almaeneg ac wedi cael eu cyfeirio at nifer o wahanol ohebwyr. Maent yn dyddio o 1832-1847 ac roedd oedd angen gwaith adfer brys arnynt am eu bod wedi mynd yn hynod o fregus dros y blynyddoedd gyda thoriadau papur a’r inc wedi diraddio.

"Yn dilyn gwaith adfer gan Kate Newton, Cadwraeth Papur Achrededig gyda Gwasanaeth Cadwraeth Amgueddfeydd Sir Fynwy yng Nghyngor Sir Fynwy, mae’r llythyrau wedi cael eu sganio ac yn awr wedi eu diogelu ar gyfer eu defnyddio gan ymchwilwyr y dyfodol.

"Ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn gweld y llythyrau a’r sgoriau hyn fe fydd arddangosfa fach wedi ei osod yn Llyfrgell Hugh Owen, yn seiliedig ar Gampws Penglais, i’w weld tan ddiwedd mis Medi.

"Mae Mendelssohn ymhlith cyfansoddwyr mwyaf poblogaidd y cyfnod Rhamantaidd."

Mae'r gwaith adfer wedi bod yn bosibl diolch i grant gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth Llawysgrifau a Llywodraeth Cymru.

AU31714