Cyfarwyddwr newydd y Swyddfa Ryngwladol

Ruth Owen Lewis, Cyfarwyddwr Swyddfa Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth

Ruth Owen Lewis, Cyfarwyddwr Swyddfa Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth

07 Hydref 2014

Mae Ruth Owen Lewis wedi ei phenodi i swydd Cyfarwyddwr Swyddfa Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Yn wreiddiol o Aberaeron, mae Ruth wedi bod yn aelod o staff y Brifysgol ers 2001.

Yn ystod ei chyfnod yn y Swyddfa Ryngwladol bu’n Swyddog Rhyngwladol â chyfrifoldeb am De Asia, Malaysia, Gwlad Thai, Nigeria, Norwy a Thwrci, Rheolwr Partneriaethau Rhyngwladol, Dirprwy Gyfarwyddwr ac am y flwyddyn ddiwethaf bu’n Gyfarwyddwr Dros Dro.

Cyn hynny, bu'n gweithio fel Cynorthwyydd Prosiect yn Swyddfa Gyrfaoedd y Brifysgol. 

Dywedodd Ruth; "O'r cychwyn cyntaf, mae myfyrwyr rhyngwladol wedi chwarae rhan annatod ym mywyd y Brifysgol yma yn Aberystwyth a heddiw maent yn 10% o'n poblogaeth myfyrwyr.

“Fy mhrif gyfrifoldeb fydd cynyddu nifer y myfyrwyr rhyngwladol trwy amrywiaeth o weithgareddau recriwtio a threfniadau cydweithredol.  Mae gennyf gyfrifoldeb cyffredinol am weithgareddau'r swyddfa a rhoi arweiniad i'r tîm ac i staff ar draws y Brifysgol ar faterion rhyngwladol.”

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol; “Mae denu myfyrwyr yn ogystal â staff o bob rhan o'r byd i gyfoethogi bywyd diwylliannol a deallusol Aberystwyth yn flaenoriaeth i ni yn ogystal ag adeiladu ar enw da rhyngwladol Aber.

“Rydym yn sefydliad byd-eang gyda staff a myfyrwyr o dros 90 o wledydd. Mae llawer iawn o botensial i dyfu, a thros y blynyddoedd nesaf byddwn yn gweithio'n galed i wneud Aberystwyth yn gyrchfan o ddewis ar gyfer staff a myfyrwyr ledled y byd.”

Graddiodd Ruth o Goleg Amaethyddol Swydd Warwick gyda gradd mewn Astudiaethau Busnes a Rheolaeth Ceffylau. Mae hefyd yn meddu ar dystysgrif ôl-raddedig mewn Rheolaeth a Marchnata o Brifysgol Aberystwyth.

AU42214