Llwyddiant ymryson pobi

Y trefnwyr Jackie Sayce (chwith) a Daisy Veronica Rendall gyda’r llwyau pren gafodd eu cyflwyno i’r enillwyr

Y trefnwyr Jackie Sayce (chwith) a Daisy Veronica Rendall gyda’r llwyau pren gafodd eu cyflwyno i’r enillwyr

07 Hydref 2014

Cyntedd adeilad Llandinam ar ei newydd wedd oedd y lleoliad ar gyfer Ymryson Pobi Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener y 3ydd o Hydref.  Roedd 30 o gystadleuwyr, 18 cacen, 5 dosbarth, 4 beirniad, llond lle o falwns a saith llwy bren i’r saith fu’n fuddugol yn y gwahanol ddosbarthiadau.

Trefnwyd y digwyddiad, a oedd yn rhan o Fore Coffi  Macmillan, gan Jackie Sayce, Rheolwr yr Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg, a Daisy Veronica Rendall, Myfyrwraig Raddedig dan Hyfforddiant yn yr Athrofa.

Yr enillwyr oedd:
Cogydd tro cyntaf: Clover Winton Polak
Y Fisgeden Orau: Daisy Rendall
Y Gacen Sawrus Orau: Faaeza Jasdanwalla
Y Gacen Orau: Anwen Roberts
Yr Her Dechnegol: Rachel Cross a Joanna Foley
Y Ffug Enw Gorau: Chris Morgan “Livin’ on a Pear”

Codwyd £250 tuag at Cymorth Cancr Macmillan.

Diolch yn fawr i bawb fu’n cystadlu, mynychu, bwyta ac yn tynnu lluniau, ac am wneud yn ddigwyddiad yn llwyddiant!