Rôl newydd i Peter Curran

Peter Curran, Cyfarwyddwr Cyllid

Peter Curran, Cyfarwyddwr Cyllid

09 Hydref 2014

Mae Peter Curran, Cyfarwyddwr Cyllid Prifysgol Aberystwyth wedi ei benodi fel Cyfarwyddwr Cyllid newydd Chwaraeon Cymru.

Wedi ei leoli yng Nghaerdydd, Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Chwaraeon Cymru yw’r prif gynghorwr ynghylch yr holl faterion yn ymwneud â chwaraeon i Lywodraeth Cymru ac mae’n gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol i chwaraeon elit a llawr gwlad yng Nghymru.

Dychwelodd Peter, sy’n gyn-fyfyriwr o’r Brifysgol, i Brifysgol Aberystwyth ym mis Chwefror 2013 fel Cyfarwyddwr Cyllid. Cyn hyn, ef oedd Dirprwy-Bennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Wrth drafod ei benodiad, dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; “Rydym yn llongyfarch Peter ar ei benodiad i’r swydd gyffrous hon, ac yn diolch yn fawr iddo am ei gyfraniad sylweddol yn Aberystwyth.

“Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf cyflwynodd Peter nifer o bolisïau a systemau strategol i’r Adran Gyllid sydd yn sicrhau ein bod yn fwy parod i ddelio â’r sialensiau sy’n ein hwynebu o fewn sector Addysg Uwch gystadleuol. Rydym yn dymuno pob llwyddiant i Peter, fel cydweithiwr a chyn-fyfyriwr, wrth iddo ddychwelyd i Gaerdydd.”

Dywedodd Peter Curran “Rwyf wrth fy modd gyda’m rôl newydd gyda Chwaraeon Cymru, sy’n cyfuno fy uchelgais broffesiynol a’m diddordeb brwd yn y byd chwaraeon;  rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu’n gadarnhaol at ddatblygu’r agenda chwaraeon yng Nghymru.

“Hoffwn ddiolch i’m cydweithwyr yn y Brifysgol am y croeso cynnes a gefais fel cyn-fyfyriwr, ac am roi’r cyfle i mi ddatblygu’r swyddogaeth gyllid o fewn y Sefydliad.  Mae Prifysgol Aberystwyth yn agos at fy nghalon, ac rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i weld y datblygiadau cyffrous sydd ar waith yma’n Aber.  Dymunaf bob llwyddiant i’r Brifysgol a’i staff i’r dyfodol.”

Bydd Peter yn cychwyn yn ei swydd newydd yn Chwaraeon Cymru yn gynnar yn 2015. Mae’r Brifysgol wedi dechrau ar y broses recriwtio i benodi olynydd i Peter.