Cymru canol oes Fictoria

Dr T Robin Chapman

Dr T Robin Chapman

15 Hydref 2014

Fe fydd Dr T. Robin Chapman, darlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, yn trafod y tyndra rhwng melancoli a modernrwydd yng Nghymru yn Oes Fictoria nos Lun 27 Hydref.

Mae'r ddarlith, sy'n dwyn y teitl The turn of the tide: melancholy and modernity in mid-Victorian Walesyn cael ei gynnal yn A12 yn Adeilad Hugh Owen ar Gampws Penglais am 7.30pm.

Mae'r ddarlith yn rhad ac am ddim ac yn agored i'r cyhoedd a bydd lluniaeth hefyd yn cael ei ddarparu.

Pan edrychodd Matthew Arnold i gyfeiriad y gorllewin o Landudno yn 1864 a gweld gwlad ‘where the past still lives’, cyfrannai at gorff o ddeunydd am Gymru yn Saesneg a gyflwynai Gymru fel rhywle hynafol, treuliedig, melancholaidd ac ‘arall’. 

Mae’r ddarlith hon yn asesu’r hanesyddiaeth y tu ôl i ganfyddiad Arnold ac yn edrych ar y gwrthdaro rhyngddo a deunydd Cymraeg y cyfnod.  

Dadleua Robin Chapman fod y Gymru Gymraeg ‘yn awyddus i ddiwygio’i sefydliadau cyfredol ac i hybu rhai newydd … yn ddidaro am fodelau’r gorffennol … ac erioed yn fwy hyderus am ddigonolrwydd ei hadnoddau ei hun’. 

Mae’r ddarlith yn ystyried y modernwydd a geir, ymhlith pethau eraill, yn yr eisteddfod, llawlyfrau hunangymorth, hysbysebion am feddyginiaethau masnachol, gwyddoniaduron a llyfrau hanes enwadol buddugoliaethus. Ni fu Cymru, fe ddadleuir, erioed mor felacncholaidd nac mor fodern.

Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth a Chymdeithas Ddysgedig Cymru ac fe’i traddodir yn Saesneg.

AU44014