Glasfyfyrwyr yn cymryd rhan mewn her raglennu

Cystadleuwyr Prifysgol Aberystwyth, Bruno Smarsaro Bazelato, Nedialko Petrov a Tomas Mikalauskas

Cystadleuwyr Prifysgol Aberystwyth, Bruno Smarsaro Bazelato, Nedialko Petrov a Tomas Mikalauskas

17 Hydref 2014

Yn ystod wythnos gyntaf eu blwyddyn gyntaf yn astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth aeth tri myfyriwr ati i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Raglennu’r Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon.

Ar 4 Hydref bu Tomas Mikalauskas, Nedialko Petrov a Bruno Smarsaro Bazelato yn cynrychioli’r Brifysgol ac yn cystadlu yn erbyn 67 o dimau o 20 o brifysgolion.

Roedd y digwyddiad yn rhan o gystadleuaeth ACM International Collegiate Programming Contest, a noddir gan IBM a Google.

Hwn oedd y tro cyntaf i Brifysgol Aberystwyth i gymryd rhan, a chynnig lleoliad i dîm ar gyfer y gystadleuaeth.

Nod y gystadleuaeth oedd datrys un ar ddeg her rhaglennu mewn pum awr. Doedden nhw ddim yn cael derbyn cymorth o unrhyw fath na defnyddio'r rhyngrwyd.

Esboniodd Tomas rai o heriau a phrosesau'r gystadleuaeth. “Y dasg anoddaf yw deall pa fath o algorithm sydd angen i chi ysgrifennu. Mae yna adegau pan fyddwch yn darllen y dasg ac yn meddwl am 20 munud neu fwy beth mae’r broblem yn gofyn i chi ei wneud.

Pan fydd gennych syniad o'r algorithm, yna mae angen i chi ysgrifennu cod. Yna rydych yn anfon y cod at feirniad, sy'n rhedeg trwy'r holl amrywiadau prawf posibl ac yna, tra bod cyfrifiadur yn crynhoi ac yn rhedeg eich cod, rydych chi’n croesi bysedd ac yn gobeithio nad oes unrhyw broblemau.”

Ar ddiwedd y dydd, o’r 68 o dimau fu’n cystadlu daeth tîm Aber yn 59fed, gyda 61 wedi llwyddo i gwblhau o leiaf un sialens. Methodd saith tîm i ddatrys yr un her.

Dywedodd Dr Amanda Clare, darlithydd mewn Cyfrifiadureg “Ni lwyddodd ein tîm i ennill y gystadleuaeth, ond fe lwyddo nhw i ddatrys un o’r tasgau. Yr hyn oedd y rhyfeddol oedd eu bod wedi gofyn am gael cymryd rhan, â hwythau’n fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn wythnos gyntaf y tymor.”