Herio straen

Logo Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen

Logo Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen

04 Tachwedd 2014

Mae hi’n Ddiwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen yfory (dydd Mercher 5 Tachwedd), a bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal llwybr lles ar Gampws Penglais a Llanbadarn fydd yn cynnwys gweithgareddau fel sesiwn nofio a sauna am ddim a tips ar sut i ryddhau straen ar gyfer staff a myfyrwyr.

Mae'r llwybr yn cwmpasu llawer o leoliadau ar y Campws gan gynnwys y Ganolfan Iechyd a Lles Myfyrwyr, Llyfrgell Hugh Owen, Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, Canolfan Chwaraeon, TaMed Da, Canolfan y Celfyddydau ac Undeb y Myfyrwyr.

Bydd pob lleoliad yn cynnig rhywbeth gwahanol megis taith gerdded natur o amgylch y campws a gynhelir gan Undeb y Myfyrwyr, prawf sgrinio dyslecsia yng Nghanolfan Croesawu Myfyrwyr i fwydlen arbennig yn TaMed Da i arddangos bwydydd sy'n helpu i leddfu straen.

Mae'r Ganolfan Chwaraeon hefyd yn cynnig dosbarth yn rhad ac am ddim i unigolion sy'n dod gydag aelod cyfredol, cynnig sydd ar gael rhwng y 5-12 o Dachwedd. Mae rhestr lawn o ddosbarthiadau ar gael yma.

Anna Newbold, Hyfforddai Graddedig sy’n gweithio yn yr adran Adnoddau Dynol sydd â chyfrifoldeb i helpu hyrwyddo iechyd a lles ar draws y brifysgol, sydd wedi bod yn cydlynu'r digwyddiad hwn.

Dywedodd, "Mae straen yn rhywbeth y bydd fwy neu lai pawb yn dioddef ar ryw adeg yn ystod eu bywydau. Mewn gwirionedd, mae GIG y nodi y bydd un o bob pedwar o bobl yn y Deyrnas Gyfunol yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod eu hoes.

"Gall straen achosi ystod eang o faterion a salwch tymor hir ac felly yr wyf yn credu ei bod yn bwysig nodi a helpu'r rhai sy'n dioddef gyda straen cyn gynted ag y bo modd.

"Yn aml, nid yw bobl yn sylweddoli eu bod yn dioddef o straen. Mae'r diwrnod hwn wedi cael ei greu er mwyn helpu pobl i adnabod yr arwyddion a'r symptomau, ynghyd â ymladd straen, ac mae'n wych y gall Prifysgol Aberystwyth fod yn rhan ohono.

"Yn ystod y dydd, fe fydd cynrychiolwyr o Amser i Newid Cymru hefyd wrth law yn Undeb y Myfyrwyr i ddarparu gwybodaeth ar ostwng y stigma sy'n gysylltiedig â materion iechyd meddwl."

Mae rhestr lawn o weithgareddau sydd yn cael eu cynnal yn ystod y dydd ar gael yma.

AU45214