Myfyriwr o Aberystwyth yn cipio gwobr Oedolyn Ifanc y Flwyddyn St John Cymru-Wales

Nathan Hazelhurst, Oedolyn Ifanc y Flwyddyn St John Cymru-Wales

Nathan Hazelhurst, Oedolyn Ifanc y Flwyddyn St John Cymru-Wales

04 Chwefror 2015

Nathan Hazelhurst, myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw enillydd gwobr Oedolyn Ifanc y Flwyddyn St John Cymru-Wales.

Derbyniodd Nathan, sydd ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer MA yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y wobr yn Noson Wobrwyo Gwobrau Ieuenctid St John Cymru-Wales a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar ddydd Sul 1 Chwefror.

Wrth siarad ar ôl y dyfarniad, dywedodd Nathan: "Mae'r wobr yn dal i suddo mewn. Cefais fy rhyfeddu gan y newyddion ym mod wedi fy enwebu, a sioc pan ddywedwyd wrthyf ym mod ar y rhestr fer. Doeddwn i erioed wedi bod i’r Pencadlys o'r blaen, felly roedd cael fy nghyfweld gan ddau ymddiriedolwr a dau gyfarwyddwr yn brofiad brawychus.

"Rwy'n gobeithio y gallaf ddefnyddio'r wobr i gynorthwyo oedolion ifanc eraill o fewn y sefydliad, gan ym mod yn teimlo na fyddwn wedi bod mewn sefyllfa i gael fy enwebu oni bai am waith oedolion ifanc eraill yn y Dref a LINKS (adran St John y Brifysgol), ychwanegodd.

Llongyfarchodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff, Nathan ar ei wobr. “Rwy'n falch iawn bod St John Cymru-Wales wedi dyfarnu teitl Person Ifanc y Flwyddyn 2015 i Nathan, ac wedi ei benodi’n Lysgennad Ieuenctid. Gwelais ar sawl achlysur yn ystod cyfnodau anodd y stormydd y llynedd, ymrwymiad eithriadol Nathan i'n myfyrwyr, staff a'r gymuned. Yr wyf yn bersonol ddiolchgar ac yn falch o weithio ochr yn ochr â Nathan, mae'n wir haeddu'r anrhydedd hwn.”

Ymunodd Nathan â St John ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod wythnos y Glas 2011, fel aelod o LINKS, adran y Brifysgol, yn y lle cyntaf.

"Ymunais â Sant Ioan oherwydd fy mod wedi gweld nhw ar waith yn ôl adref, ac eisiau helpu pobl eraill. Roeddwn hefyd yn awyddus i ennill sgiliau newydd, a chwrdd â grŵp gwahanol i’r bobl yr oeddwn yn cyd-letya â nhw, a myfyrwyr eraill ar fy nghwrs.”

Ar hyn o bryd ef yw Swyddog ar Ddyletswydd ar gyfer yr Is-adran Tref Aberystwyth o St John Cymru-Wales.

Mae hyn yn cynnwys trefnu dyletswydd ar gyfer unrhyw ddigwyddiad yr ydym yn derbyn cais amdano, cwblhau gwaith papur cyn y digwyddiad a bod yn gyfrifol am weithredu ar y diwrnod.

Ef hefyd yw'r prif bwynt cyswllt ar gyfer y gwasanaethau brys statudol, i drafod cydweithio ar ddyletswyddau ar raddfa fawr, a chefnogaeth wrth gefn pan fo angen.

Mae Nathan hefyd yn hyfforddwr ac asesydd ar gyfer y sefydliad, gan ddarparu hyfforddiant ac asesu i aelodau o'r is-adran ac is-adran LINKS, yn ogystal â hyfforddi'r cyhoedd ar gyrsiau cymunedol.

Graddiodd Nathan o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 2014 ac ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer MA mewn Hanes Rhyngwladol.

Mae'n gobeithio mynd ymlaen i astudio ar gyfer PhD mewn Cynllunio Brys, Cadernid ac Ymateb ym Mhrydain i ddigwyddiadau terfysgol ers y 1980au, a hynny yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Yn y cyfamser, mae'n bwriadu parhau â'i hyfforddiant gyda St John.

Mi fydd yn mynychu cwrs Cynorthwyydd Cludo Cleifion ym mis Mai, ac yn y pen draw ei obaith yw cwblhau hyfforddiant Cynorthwyydd Trafnidiaeth Brys, a gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys a'r brifysgol, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr a phobl leol yn cael y Gofal Brys Cyn-Ysbyty gorau posibl.

AU4915