Syr John Rhŷs o Bonterwyd

Yr Hen Goleg, lle bu Syr John Rhŷs yn darlithio ar ieitheg Gymraeg yn 1874

Yr Hen Goleg, lle bu Syr John Rhŷs yn darlithio ar ieitheg Gymraeg yn 1874

19 Chwefror 2015

Bydd Adran y Gymraeg a Llyfrgell Hugh Owen Prifysgol Aberystwyth, ar y cyd â’r Llyfrgell Genedlaethol a Chomisiwn Henebion Cymru yn cynnal cynhadledd y penwythnso hwn (20fed a’r 21ain o Chwefror) i goffáu Syr John Rhŷs (1840–1915).

Brodor o Bonterwyd oedd Syr John Rhŷs, a phan fu farw ar yr 17eg o Ragfyr 1915, ef oedd Prifathro Coleg Iesu Rhydychen.

Bydd y gynhadledd yn dechrau ar nos Wener 20 Chwefror gyda darlith gyhoeddus yn Neuadd Argoliadau’r Hen Goleg gyda’r hanesydd Dr Russell Davies; ‘'Y byd wedi dadreibio?': Syr John Rhŷs a'i amserau’. Y ddarlith i gychwyn am 7.30 a’r mynediad am ddim.

Ceir manylion rhaglen cynhadledd dydd Sadwrn 21 Chwefror, sy’n cael ei chynnal yn Ystafell Seddon yr Hen Goleg, ar wefan yr Adran Gymraeg yma.

Dywedodd Elgan Davies, llyfrgellydd yn Llyfrgell Hugh Owen Prifysgol Aberystwyth, ac un o drefnwyr y gynhadledd: “Mae nifer o bobl yn  gyfarwydd ag enw John Rhŷs ond efallai ddim yn gwybod llawer amdano erbyn hyn, ond roedd e’n ddyn pwysig iawn yn ei ddydd ac yn aelod ar bob math o bwyllgorau pwysig yng Nghymru a thu hwnt.

“Roedd Rhŷs yn un o fawrion cyfnod diwedd Oes Fictoria yn y cyd-destun Prydeinig yn ogystal â Chymru. Pan fu farw Rhŷs gadawodd ei bapurau personol i’r Llyfrgell Genedlaethol a’i lyfrgell i ni yn y Brifysgol ac roedd e hefyd yn gadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, felly mae Aberystwyth yn naturiol yn ganolfan astudiaethau arno, a dyna pam ry’n ni wedi trefnu’r gynhadledd – ac i godi ymwybyddiaeth unwaith eto o Rhŷs a diddordeb yn ei waith.”

Ychwanegodd: “Mae’n addas iawn fod y gynhadledd hon yn cael ei chynnal yn yr Hen Goleg. Ym mis Mai 1874 traddododd Rhŷs ddwy ddarlith ar ieitheg Gymraeg a oedd, yn ôl rhai, yn fan cychwyn ar ei yrfa fel ysgolhaig.”

Cafwyd adroddiad manwl a hir am y darlithoedd hynny yn y Cambrian News sydd ar gael yma.

Y pynciau dan sylw yn ystod dydd Sadwrn fydd:
‘“Pwy bia’r plât llyfr lliwgar y na?”: Llyfrau Syr John Rhŷs yn Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth’ - Elgan Davies
'Agor yr archif. Posibiliadau ymchwil ym Mhapurau John Rhŷs yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru' – Dr Maredudd ap Huw a Nia Daniel
‘Gleanings in the Italian Field of Celtic Epigraphy’– Dr Alexander Falileyev
‘Arwr mawr Aberceiro fach’: Ysbrydoliaeth gan Syr John Rhŷs – Mary Lloyd Jones ‘Portreadau o John Rhŷs’– Lona Mason
‘Golwg newydd ar Lectures in Welsh Philology’– Dr Simon Rodway
'John Rhŷs as a pioneer in the study of Manx' – Christopher Lewin
‘Cylch ei ohebiaeth’– Dr Richard Glyn Roberts
‘Sir John Rhŷs and the foundation of the Royal Commission’– Richard Suggett

Hon fydd y gyntaf o ddwy gynhadledd ar Rhŷs a’i waith, gan fod un arall gyda siaradwyr gwahanol ar bynciau gwahanol (sy’n dangos ehangder ei ddiddordebau a’i ddylanwad) yn mynd i gael ei chynnal yn Y Drwm y Llyfrgell Genedlaethol ar 4/5 Rhagfyr 2015.

AU7315