Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Cynhadledd Awtistiaeth

Cynrychiolwyr o Brifysgol Aberystwyth a Thîm Gwasanaethau Awtistiaeth Cymdeithasol Ceredigion gyda Siaradwyr yn y Gynhadledd

Cynrychiolwyr o Brifysgol Aberystwyth a Thîm Gwasanaethau Awtistiaeth Cymdeithasol Ceredigion gyda Siaradwyr yn y Gynhadledd

02 Ebrill 2015

Ar ddiwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, cynhaliodd Prifysgol Aberystwyth gynhadledd undydd Lleisiau o'r Sbectrwm Awtistig mewn partneriaeth â Thîm Awtistiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion.

Roedd y gynhadledd yn gyfle i bobl ar y sbectrwm awtistiaeth, partneriaid, rhieni, perthnasau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn y gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg i ddod at ei gilydd i rannu eu profiadau a dysgu.

Esboniodd John Harrington, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth; "Mae cymaint ohonom yn cael ein effeithio gan, neu yn gweithio i gefnogi pobl ag awtistiaeth, ac mae stori pawb yn wahanol. Mae hi wedi bod yn anrhydedd mawr i wrando ar y siaradwyr yn rhannu eu profiadau o fod yn awtistig, a dysgu sut maen nhw wedi goresgyn yr heriau a ddaw gydag awtistiaeth.

"Heddiw yw’r ail gynhadledd flynyddol mewn partneriaeth â Mary Rendell, Swyddog Datblygu'r Sbectrwm Awtistiaeth a'i thîm o Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Ceredigion, ac rydym yn falch iawn o allu croesawu pobl yn ôl i Medrus eto eleni."

Gyda dros 100 o gynrychiolwyr o bob rhan o Geredigion, cafodd y gynhadledd gipolwg ar awtistiaeth drwy lygaid amrywiaeth o siaradwyr, gan gynnwys Barrie Thompson, Cynghorydd ac Ymgynghorydd mewn amodau sbectrwm awtistig; Alex Lowery, siaradwr cyhoeddus proffesiynol a hyfforddwr ar awtistiaeth; Robert Parton sydd yn berson awtistig sy'n gweithredu ar lefel uchel ac mae wedi goresgyn adfyd i fod yn siaradwr cyhoeddus gwirioneddol anhygoel; a John Simpson sydd â Syndrom Asperger ac yn ystod y pum mlynedd diwethaf wedi cyflwyno cyflwyniadau mewn dros 100 o gynadleddau a seminarau, i newid credoau, disgwyliadau pobl a dulliau o gyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth.