Lansio gradd newydd mewn Addysg a Datblygiad Rhyngwladol

14 Ebrill 2015

Mae cynllun gradd israddedig newydd wedi ei lansio gan Brifysgol Aberystwyth sydd wedi ei anelu at y rheiny sydd â diddordeb mewn defnyddio Addysg fel ffordd o ddatblygu cymunedol a chymdeithasol o bersbectif byd-eang.

Y radd BA mewn Addysg a Datblygiad Rhyngwladol yw'r ychwanegiad diweddaraf at bortffolio’r  Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn Aberystwyth a bydd yn croesawu ei myfyrwyr cyntaf ym Medi 2015.

Mae’r cwrs yn cynnwys modiwlau mewn pynciau fel Pobl a Phartneriaethau, Addysg Fyd-eang a Datblygiad ac Arfer Rhyngwladol, ac wedi ei gynllunio i alluogi myfyrwyr i gyfrannu at gydlyniad cymdeithasol a gwydnwch cyhoeddus ac, yn y tymor hir, leihau graddfeydd tlodi.

Bydd myfyrwyr yn dysgu i ystyried pob ffactor sy'n effeithio ar addysg a datblygiad, megis materion cymunedol, rôl yr unigolion a llywodraeth, ac effaith tlodi.

Bydd y cwrs hefyd yn cynnig lleoliad cyffrous 7-wythnos mewn sefydliad addysgol neu ddatblygu rhyngwladol yn y Deyrnas Gyfunol neu'n rhyngwladol, gan alluogi myfyrwyr i ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r pwnc. Bydd cyfleoedd hefyd i astudio prosiectau datblygu rhyngwladol.

Bydd y sgiliau a addysgir drwy’r radd yn galluogi graddedigion i weithio mewn sefydliadau elusennol, sefydliadau anllywodraethol, a chyrff llunio polisïau addysgol, neu mewn sefyllfaoedd datblygiad cymdeithasol mwy ymarferol.

Dywedodd Dr Stephen Atherton, Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig yn yr Ysgol Addysg a Gydol Oes ddysgu: “Mae hwn yn gynllun gradd cyffrous ac arloesol a fydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o rôl addysg o fewn cyd-destun datblygu rhyngwladol.

“Bydd myfyrwyr sy'n cymryd y cwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael cyfle i ddysgu am, a gweithio gyda, nifer o sefydliadau yn y DG ac yn fyd-eang sy'n chwarae rôl allweddol mewn mentrau addysgol yn y byd datblygedig a’r byd sy’n datblygu.

“Bydd hyn yn gosod myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar flaen y gad o ran datblygiadau allweddol i fynd i'r afael â thlodi, gwella cydraddoldeb, iechyd a lles, a mynediad i addysg ar raddfa fyd-eang.”

AU9215