Brynamlwg yn ailagor ar ei newydd wedd

Logo Brynamlwg.

Logo Brynamlwg.

02 Mawrth 2016

Bar a Bwyty Brynamlwg Prifysgol Aberystwyth wedi ailagor ar ôl gwaith adnewyddu helaeth.

Ac i ddathlu’r ail-agor, cynhaliwyd swper Dydd Gŵyl Dewi gyda bowlen o gawl ar nos Fawrth 1 Mawrth.

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Aberystwyth, John Glasby: "Mae’n bleser gennym groesawu cwsmeriaid newydd a phresennol i Brynamlwg. Mae’n agored i bawb, ac mae gennym fwydlen newydd cyffrous sy'n canolbwyntio ar gynnyrch lleol, coffi barrista, cwrw go iawn a dewis da o winoedd a gwirodydd."

"Rydym yn arbennig o ddiolchgar am waith gwych Pwyllgor Clwb Cymdeithasol Staff a Chwaraeon  Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi cydweithio gyda Gwasanaethau Campws y Brifysgol i wneud hyn yn bosibl."

Mae Brynamlwg yn agored i bawb, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 11 y bore a 2 y prynhawn, ac yna o 5 o’r gloch yr hwyr. Gweinir cinio bob dydd a phrydiau gyda’r hwyr o nos Fercher tan nos Sadwrn.

Mae rhagor o wybodaeth ar Brynamlwg ar gael ar-lein yma.

AU8416