Gorsedd y Beirdd yn anrhydeddu un o gyn-fyfyrwyr Aberystwyth

Liz Saville Roberts AS

Liz Saville Roberts AS

12 Mai 2016

Mae Liz Saville Roberts AS, Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Plaid Cymru, a ddysgodd Gymraeg tra oedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ymhlith y rhai y bydd Gorsedd y Beirdd yn eu hanrhydeddu yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yr haf hwn.

Mae’r anrhydedd, sydd yn ddathliad blynyddol, yn gyfle i gydnabod unigolion o bob rhan o’r wlad, am yr hyn y maent wedi cyflawni a’u hymrwymiad i Gymru, y Gymraeg a’u cymunedau lleol dros Gymru benbaladr.

Yn wreiddiol o Eltham yn ne-ddwyrain Llundain, daeth Liz Saville Roberts i Brifysgol Aberystwyth yn ddeunaw oed i astudio ieithoedd, ac yma y dysgodd Gymraeg.

Meddai Liz: “Hoffwn ddiolch i'r darlithwyr Cymraeg a Gwyddeleg a oedd yn fy nysgu yn Aber. Cefais ganddynt addysg academaidd, a llawer mwy. Yn bwysicaf oll, cefais ganddynt alwedigaeth.”

Ar ôl gweithio am gyfnod yn Llundain, daeth Liz yn ôl i Gymru i weithio fel newyddiadurwraig.  Bu’n gynghorydd dros Forfa Nefyn am dros ddeng mlynedd ac yn gweithio yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn cefnogi ac yn datblygu addysg Gymraeg ôl-16.  Hyd nes iddi gael ei hethol yn AS, hi oedd Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd Grŵp Llandrillo Menai.

Ym mis Mai 2015 cafodd ei hethol yn AS dros Ddwyfor Meirionnydd, aelod benywaidd cyntaf Plaid Cymru yn San Steffan.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar Ddolydd y Castell, Y Fenni o 29 Gorffennaf – 6 Awst.  Bydd stondin Prifysgol Aberystwyth yn un prysur gyda digwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol yr wythnos.

Caiff Liz Saville Roberts ei hanrhydeddu mewn seremoni arbennig ar Faes yr Eisteddfod ddydd Gwener 5 Awst.

AU15516