Celf Byw a Brwydrau Bwyd ar Faes y Brifwyl

01 Awst 2016

Brwydrau sôs coch, gwisgo bwyd a thynnu lluniau ar gefn oedolion. Dyna rai o’r profiadau anarferol sy’n cael eu cynnig mewn digwyddiad Celf Byw i Bawb ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni rhwng 12.30pm a 1.30 pm Ddydd Mawrth 2 Awst

Y trefnydd yw’r Dr Gareth Llŷr Evans,  darlithydd Celfyddydau Creadigol sy’n gweithio yn Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r gweithdy rhyngweithiol wedi ei ysbrydoli gan gyhoeddiad diweddar yr Asiantaeth Datblygu Celf Live Playing Up, sy'n archwilio potensial Celf Byw i bontio drwy gyfrwng gêm sy’n cael ei chwarae gan oedolion a phlant.

Mae'n cynnwys amrywiaeth o gemau wedi’u hysgogi gan ddarnau o gelf berfformio enwog, megis gwaith Bobby Baker On Cooking Sunday Dinner sy’n gwneud dillad allan o fwyd.

Dywedodd Dr Evans: "Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth `ryn ni’n hybu agwedd ryngddisgyblaethol tuag at theatr a pherfformiad; `ryn ni’n awyddus i annog ein myfyrwyr i beidio gweld ffiniau mewn celf a pherfformiad, ac mae hyn yn eu galluogi i gwestiynu ac archwilio union natur perfformiad.

"Dyma beth fyddwn ni’n edrych arno yn yr Eisteddfod a hynny mewn ffordd hwyliog, chwareus sy’n caniatáu i bawb greu eu perfformiad eu hunain. Byddai'n wych petawn ni’n gallu ysbrydoli cenhedlaeth i fynd allan i’r byd a bod yn greadigol a gwneud pethau."

Yn enedigol o Rostryfan, fe astudiodd y Dr Gareth Llŷr Evans ym mhrifysgolion Bangor ac Aberystwyth cyn cael swydd dysgu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn 2012. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn y Celfyddydau Creadigol ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2014.

Felly beth y gallwch ei ddisgwyl o alw heibio i’n sesiwn Celf Byw i Bawb? Wel, mae’r Dr Evans yn addo y bydd yn "yn greadigol, yn flêr, yn dipyn o hwyl i'r teulu... gydag elfen fach o anarchiaeth!"

Caiff Celf Byw i Bawb ei gynnal rhwng 12:30-1:30yp Ddydd Mawrth 2 Awst ar stondin Prifysgol Aberystwyth ac mae’n addas at unrhyw un dros chwech oed. Mae’n un o blith ystod eang o weithgareddau academaidd a diwylliannol sy’n cael eu trefnu gan y Brifysgol ar faes y Brifwyl eleni.