Straeon Clirio 2016

22 Awst 2016

Mae myfyrwyr sydd wedi canfod eu lle ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy’r system Clirio wedi bod yn ymweld â’r campws yr wythnos hon. Buom ni’n siarad gyda rhai ohonyn nhw i glywed eu barn am y drefn glirio a’u hargraffiadau o’r dref fydd yn gartref iddyn nhw am y tair blynedd nesaf. Os wyt ti eisiau canfod mwy am astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, cymer olwg ar-lein ar ein hystod eang o gyrsiau.

Briony Sayers o Gaerefrog

Roedd Briony Sayers wedi derbyn cynnig yn wreiddiol i fynd i astudio yn yr Iseldiroedd ond ar ôl methu cael gradd C angenrheidiol mewn Cemeg, fe benderfynodd fynd ati i edrych ar opsiynau eraill drwy’r broses Clirio. Wedi edrych ar-lein, fe ddaeth i’r casgliad bod Prifysgol Aberystwyth yn ateb ei gofynion i gyd ac ar ôl sgwrs hir ar y ffon, fe dderbyniodd le i astudio Bioleg yma. Bedwar diwrnod ar ôl cael ei chanlyniadau, fe ddaeth Briony a’i mam ar y trên ben bore o Gaerefrog i Aberystwyth i weld y campws a’r cyfleusterau.

“Fe ddechreuais i edrych ar lefydd Clirio brynhawn Dydd Iau ar ôl casglu fy nghanlyniadau. Edrychais i yn bob man. Doeddwn i ddim am fynd i ddinas neu dre fawr a dwi’n hoffi gweithgareddau awyr agored felly pan ddes i ar draws Prifysgol Aberystwyth, roedd yn edrych fel y lle perffaith i fi. Doeddwn i fyth wedi meddwl y bydden i’n gallu astudio Bioleg yn Aber ond pan edrychais i, roedd pob dim amdano yn edrych yn iawn. Hefyd, fues i ar fy ngwyliau yn yr ardal pan oeddwn i'n blentyn ac mae un o fy hoff draethau lawr yr arfordir, ger Aberteifi!

“Nes i ffonio sawl lle ond roedd Aberystwyth yn ymddangos yn well nag unman arall.. Roedd y bobl ar y ffon yn gyfeillgar iawn hefyd ac fe ges i gyfle i siarad yn fanwl am yr opsiynau gwahanol oedd ar gael i fi.  Dwi wedi gallu dod i weld y Brifysgol fy hun heddiw (Dydd Llun 22 Awst) a chael cyfle i edrych ar fy llety sydd yn wych.

“Pan nes i’m mhenderfyniadau gwreiddiol drwy Ucas nôl ym mis Hydref- Tachwedd 2015, ges i bedwar cynnig ond roedd y dewisiadau ar y pryd yn ymddangos yn eithaf cul. Roedd yn rhaid defnyddio un datganiad personol yn unig  ar gyfer yr holl ddewisiadau ac roedd hynny’n teimlo braidd yn gyfyngedig. Mae mynd trwy Clirio fel petai wedi agor llu o gyfloed a llwybrau eraill, ac erbyn hyn mae Prifysgol Aberystwyth yn ymddangos yn lle mwy addas o lawer i fi.

Roedd mam Briony, Victoria Sayers, wedi cael siom o'r ochr orau: “Roedd y broses Clirio dipyn haws a thipyn mwy cyfeillgar nag oeddwn i wedi’i ddisgwyl. Roedd yr holl broses fel petai’n agor dewisiadau newydd i Briony ac roedd yn teimlo fel petai yna fwy o gyfleoedd ynghlwm a’r drefn yn hytrach na’i fod yn ddewis olaf.”

Dominic Hughes o Nantwich, Swydd Gaer

Daeth Dominic Hughes i weld Prifysgol Aberystwyth gyda’i deulu Ddydd Llun 22 Awst 2-16. Bu’n ymweld â’r Adran Fathemateg ac yn siarad gyda darlithwyr yn ogystal â chael cyfle i edrych ar ystafelloedd llety’r coleg.

“Fy mwriad yn wreiddiol oedd astudio Cemeg ym Mhrifysgol Bangor ond fe benderfynaid edrych ar opsiynau eraill ar ol cael C yn lefel A Cemeg yn hytrach na’r B oeddwn i ei angen. Mae un o’m ffrindiau’n dilyn cwrs Astudiaethau Ceffylau yn y Brifysgol ac fe wnaeth e argymell Aberystwyth felly nes i benderfynu holi ynghlyn a dilyn cwrs gradd Mathemateg yma.

Mae’r staff yn Aberystwyth wedi bod yn wych ac yn gymaint o gymorth yn ystod y broses Clirio - o’r eiliad ddechreuais i wneud ymholiadau ar-lein yr wythnos diwethaf hyd nes dod yma i weld y campws heddiw.

“Mae Aberystwyth wedi bod yn grêt a dwi’n meddwl bod delwedd clirio wedi newid yn llwyr erbyn hyn. Mae’r broses clirio ac addasu yn hollol bositif bellach.”   meddai mam Dominic.

Sam Course o Southampton

Roedd Sam Course yn un arall wnaeth deithio'n bell er mwyn manteisio ar y cyfle i ddod i weld beth oedd gan Brifysgol Aberystwyth i'w gynnig a hynny ar ôl gwneud cais yn hwyr yn y dydd ym mis Awst 2016.

“Roeddwn i wedi penderfynu cymryd blwyddyn allan ar ôl gorffen fy lefel A ac felly nes i ddim gwneud cais yn wreiddiol i fynd i’r Brifysgol eleni. Ond y diwrnod cyn y canlyniadau - ac ar ôl dyddiad cau arferol Ucas - nes i newid fy meddwl a phenderfynu y bydden i’n hoffi dod i Aberystwyth i astudio Ysgrifennu Creadigol.

"Roeddwn i’n gwybod am Brifysgol Aberystwyth ac roedd y cyfleoedd oedd ar gael yma wedi gwneud argraff arna i yn ystod ymweliad â fy ysgol gan staff o'r Tîm Cyswllt Ysgolion a Cholegau ond mae cael cyfle nawr i ymweld â’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol wedi bod yn ddefnyddiol iawn. 'Dwi wedi cael cyfle i siarad gyda chyn fyfyrwyr a myfyrwyr presennol ar y campws a chael clywed am eu profiadau nhw o’r coleg. Nes i hefyd fynd i edrych ar y llety oedd ar gael ym Mhenbryn."

Diwrnodau Agored

Os hoffet ddod i weld Prifysgol Aberystwyth, rydyn ni'n cynnal cyfres o ddiwrnodau ymweld rhwng 22 - 26 Awst 2016 neu ffonia'n rhif Clirio arbennig ar 0800 121 40 80. Os wyt ti'n edrych tuag at y flwyddyn academaidd nesaf, mae gennym Ddiwrnodau Agored yn ystod yr hydref a'r gwanwyn pan fydd cyfle cael clywed am sawl agwedd ar fywyd yn y coleg ger y lli.