Pennaeth y Brifysgol ar Drothwy Her IronMan

Yr Athro John Grattan yn rhedeg lan Rhiw Craig Laes yn Aberystwyth yn ystod un o’i sesiynau hyfforddi.

Yr Athro John Grattan yn rhedeg lan Rhiw Craig Laes yn Aberystwyth yn ystod un o’i sesiynau hyfforddi.

12 Medi 2016

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn mynd trwy ei baratoadau olaf cyn wynebu un o heriau corfforol mwyaf ei fywyd.

Fore Sul 18 Medi 2016, bydd yr Athro John Grattan yn ymuno â rhyw ddwy fil o athletwyr eraill yn achlysur byd-enwog IronMan Cymru yn Ninbych y Pysgod, Sir Benfro.

Ei nod fydd nofio 2.4 o filltiroedd yn y môr, seiclo 112 o filltiroedd ac yna rhedeg marathon llawn mewn llai na dwy awr ar bymtheg.

Mae’n dipyn o sialens i unrywun ond dywed yr academydd 56 oed fod yr achos da mae’n codi arian ar ei gyfer yn ei yrru ymlaen.

Gofyn am gyfraniadau y mae’r Athro Grattan tuag at Gronfa Aber sy’n galluogi’r Brifysgol i gynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr a allai fod yn wynebu argyfwng ariannol difrifol heb fod unrhyw fai arnyn nhw.

Fel rheol mae’r Gronfa yn dibynnu ar gefnogaeth Alumni Prifysgol Aberystwyth, ond eleni mae’r Is-Ganghellor Dros Dro wedi ymrwymo i gyfrannu a chodi ymwybyddiaeth hefyd.

Mae’r Gronfa Caledi a lles myfyrwyr yn agos at ei galon oherwydd ei brofiad personol. Yn ddeunaw oed ni fu’n bosibl iddo fynd i’r brifysgol am fod angen iddo aros gartref i gynorthwyo i gynnal ei rieni a’i frodyr a chwiorydd.

“Pan gyrhaeddais y brifysgol yn y diwedd yn 26 oed, fe newidiodd hynny fy mywyd a rhoi i mi agwedd newydd ac ehangach. Dwi eisiau ceisio sicrhau bod eraill yn cael yr un cyfle i gyflawni eu potensial,” meddai’r Athro Grattan. “Mae profiad y myfyrwyr yn holl bwysig ac yn ganolog i bob dim rydyn ni’n ei wneud yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.”

Mae cadw’n heini wedi bod yn bwysig i’r Athro Grattan erioed ond wrth baratoi ar gyfer IronMan Cymru, aeth ati i ddilyn rhaglen hyfforddi ddwys gan weithio’n agos gyda staff yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol ac yn adran Gwyddorau Chwaraeon yr Athrofa Astudiaethau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

“Pan ddechreuais hyfforddi go iawn ddechrau’r flwyddyn, roedd y 18fed o Fedi yn ymddangos yn bell i ffwrdd ond gyda dyddiau’n unig i fynd bellach, dwi’n gobeithio mod i wedi gwneud digon,” meddai’r Athro Grattan.

“Dwi’n sicr wedi colli ychydig o bwysau yn ystod y misoedd diwethaf, dwi mewn siâp dipyn gwell nag  oeddwn i a dwi wedi darganfod cyhyrau newydd. Beth bynnag sy’n digwydd Ddydd Sul, dwi’n benderfynol o barhau i gadw’n heini. Rydyn ni’n ffodus iawn yn Aberystwyth ein bod yn gallu seiclo a rhedeg yng nghanol golygfeydd godidog. Dwi hefyd yn hoff iawn bellach o nofio yn nyfroedd hyfryd Bae Ceredigion - pan mae’r tywydd yn caniatiàu wrth reswm.”

Ymhlith y rheiny sydd wedi dymuno’n dda i’r Is-Ganghellor mae aelod o dîm beicio Prydain enillodd fedal aur yn y ras erlid yng Ngemau Olympaidd Rio 2016, Ed Clancy, fu yng Ngŵyl Seiclo Aber eleni.

Mae modd cyfrannu neu ganfod mwy am yr her ar wefan ironmanvc.everydayhero.com/uk/johngrattan.