Dathlu Wythnos y Gofod yn Aber

Model ar raddfa gyfan o dirlun y blaned Mawrth sy'n rhan o arddangosfa Wythnos Gofod y Byd yn yr Hen Goleg.

Model ar raddfa gyfan o dirlun y blaned Mawrth sy'n rhan o arddangosfa Wythnos Gofod y Byd yn yr Hen Goleg.

03 Hydref 2016

Mae Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn gwahodd aelodau o'r gymuned leol, gan gynnwys myfyrwyr a staff, i ddarganfod mwy am ddatblygiadau cyffrous mewn ymchwil gofod sy’n digwydd ar garreg eu drws, fel rhan o Wythnos Gofod y Byd (4ydd – 10fed Hydref, 2016).  

Sefydlwyd Wythnos Gofod y Byd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 1999 a dyma’r digwyddiad blynyddol mwyaf o’i fath, gyda gweithgareddau ar draws y byd i ddathlu, addysgu ac ysbrydoli’r cyhoedd yn gyffredinol a phlant am y gofod.

Yn unol â'r thema eleni, 'Synhwyro o Bell, Galluogi Ein Dyfodol', bydd Prifysgol Aberystwyth yn ymuno yn y dathliad byd-eang drwy arddangos enghreifftiau o synhwyro o bell rhwng y Ddaear a’r Gofod. Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn y Cwad yn yr Hen Goleg, rhwng dydd Mawrth 4 a dydd Gwener 7 Hydref (09.00 - 18.00).

Yn ystod yr wythnos bydd cyfle i weld model ar raddfa gyfan o dirlun y blaned Mawrth sy’n dangos wyneb cyfan Mawrth a cheudwll Gale. Mae’r tirlun yma’n cael ei astudio ar hyn o bryd gan beiriant crwydryn ‘Curiosity’ NASA, a gafodd ei adeiladu gan wyddonwyr gofod yn Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth gan ddefnyddio data o MOLA, y Mars Orbital Laser Altimeter.

Bydd modelau o offer sy’n cael ei gynhyrchu yn Aberystwyth i hedfan i’r blaned Mawrth ar daith crwydryn ExoMars yr Asiantaeth Gofod Ewropeaidd yn 2020 hefyd i’w weld.   

Un o’r trefnwyr yw Rachel Cross, darlithydd Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i archwilio'r gofod ers cryn amser. Yn Aberystwyth, er enghraifft, y datblygwyd a chalibrwyd braich roboteg taith Beagle2 yn 2003, y daethpwyd o hyd i'w gweddillion yn ddiweddar. Roedd hyn yn sail i’r gwaith mae Aberystwyth yn ei wneud ar hyn o bryd ar gyfer taith ExoMars yr Asiantaeth Gofod Ewropeaidd yn 2020. 

“Ochr yn ochr â’r gweithgareddau eraill, byddwn ni’n cynnal digwyddiad ‘Cwrdd â'r Arbenigwyr' ddydd Mercher 5 Hydref rhwng 15:30-18:30 yn yr Hen Goleg lle bydd ymchwilwyr a llysgenhadon myfyrwyr o’r Adran Ffiseg a Chanolfan Aberystwyth er Monitro’r Gofod a’r Ddaear ar gael i siarad am eu hymchwil ac i ateb cwestiynau am y gofod ac am synhwyro o bell. Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb alw i mewn felly dewch draw i’n gweld!”

Ymhlith arddangosfeydd eraill bydd planetariwm dros dro, heriau rhyngweithiol, delweddau o rewlifoedd a dynnwyd wrth i Gerbyd Awyr Di-griw (Unmanned Aerial Vehicles - UAV) hedfan dros y Swistir  a chwis adnabod y rhewlif. Felly dewch draw i reoli cerbyd bach ar dirlun garw’r blaned Mawrth neu archwilio’r planedau gyda meddalwedd rhyngweithiol - mae rhywbeth at ddant pawb.