Her Gweithredu Brexit a'r Oblygiadau i Bolisi Tramor Prydain

Syr Emyr Jones Parry

Syr Emyr Jones Parry

01 Chwefror 2017

Bydd un o ddiplomyddion mwyaf blaenllaw Cymru a Changhellor Prifysgol Aberystwyth Syr Emyr Jones Parry yn cyflwyno anerchiad allweddol ar effaith debygol Brexit ar berthynas y DU â'r byd ar ddydd Iau 2 Chwefror.

Bydd y ddarlith, 'Her Gweithredu Brexit a'r Oblygiadau i Bolisi Tramor Prydain', yn cael ei thraddodi am 4 y prynhawn ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais.

Fel cyn-Gynrychiolydd Parhaol y DU i'r Cenhedloedd Unedig ac aelod o grŵp ymgynghorol Llywodraeth Cymru ar Brexit, traddodir y ddarlith gan Syr Emyr yn erbyn cefndir o weithgaredd polisi tramor dwys wrth i weinidogion llywodraeth frwydro i gynnal dylanwad a sicrhau cytundebau masnach byd-eang mewn cyfnod gaiff ei ragweld fel un cythryblus i gysylltiadau tramor Prydain.

Mae Milja Kurki, Cyfarwyddwr Ymchwil yn yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol, yn annog myfyrwyr, staff a phobl leol i ddod i ddigwyddiad fydd yn siŵr o gyflwyno gwybodaeth werthfawr.

Dywedodd yr Athro Kurki: "Mae'r ddarlith hon yn rhan o amserlen barhaus o weithgareddau sy’n ystyried canlyniad ac oblygiadau pleidlais hanesyddol haf llynedd.

"Gyda'i brofiad fel un o ddiplomyddion uchaf ei broffil ein gwlad, prin yw’r bobl sydd yn fwy cymwys na Syr Emyr Jones Parry i drafod yr ôl-effeithiau anochel ar bolisi tramor Prydain a’i ddylanwad yn y byd."

Mewn rhaglen eang sy'n ystyried effaith Brexit, bu digwyddiad diweddar a gynhaliwyd fel rhan o lansiad swyddogol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru y Brifysgol yn edrych ar ei effaith ar ganolbarth Cymru, ac yn gynharach yn yr wythnos cafwyd darlith gan yr Athro Michael Keating o Brifysgol Aberdeen yn archwilio effaith Brexit ar y setliad datganoli presennol.

Bywgraffiad Syr Emyr Jones Parry
Yn Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ganwyd Syr Emyr Jones Parry yng Nghaerfyrddin. Yn raddedig o Brifysgol Caerdydd, dyfarnwyd PhD iddo mewn Ffiseg o Gaergrawnt. Bu'n Ddiplomat o 1973 - 2007, a’i swyddogaethau olaf oedd fel Llysgennad i'r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd, Cynrychiolydd Parhaol i NATO, a Chyfarwyddwr Gwleidyddol y Swyddfa Dramor. O 2007 - 2009 bu'n gadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan ar Bwerau’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r Dyfodol. Mae ganddo brofiad o bob lefel o'r Llywodraeth, yr Undeb Ewropeaidd, Datblygiad Cyfansoddiadol yn y DU, Polisi Gwyddoniaeth, a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Digwyddiadau’r dyfodol yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Ar nos Fawrth, 7 Chwefror am 6.30pm bydd yr Athro Syr Lawrence Freedman o King’s College, Llundain yn cyflwyno darlith goffa flynyddol David Davies o dan y teitl ‘The Future of Discretionary Warfare: Criteria for the use of Force.’

Ar nos Fawrth, 14 Chwefror am 6pm bydd yr Athro Richard Beardsworth, Pennaeth yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth  yn cyflwyno’i ddarlith agoriadol ‘The Political Moment: Political Responsibility and Leadership in a Globalized, Fractured Age’.