Syr Lawrence Freedman i gyflwyno darlith flynyddol Sefydliad Coffa David Davies

Yr Athro Syr Lawrence Freedman

Yr Athro Syr Lawrence Freedman

02 Chwefror 2017

Bydd cyn-aelod o Ymchwiliad Irac ac yn un o arbenigwyr mwyaf cydnabyddedig y byd ar ryfel ac astudiaethau strategol, yr Athro Syr Lawrence Freedman yn cyflwyno darlith flynyddol  Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn ei ddarlith 'The Future of Discretionary Warfare: Criteria for the use of Force’, bydd yr Athro Freedman yn ystyried y meini prawf sy'n debygol o lunio'r defnydd o rym yn y dyfodol ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol.

Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol am 6.30pm ar nos Fawrth 7 Chwefror 2017.

Mae'r Athro Freedman yn Athro Emeritws Astudiaethau Rhyfel yn King's College, Llundain. Yn aelod o'r adran ers 1982, mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar hanes strategaeth ac amddiffyn cyfoes a materion polisi tramor.

Yn 2009 fe'i penodwyd i Ymchwiliad Irac (sy'n fwy adnabyddus fel Ymchwiliad Chilcot) a oedd yn archwilio rôl Prydain yn Rhyfel Irac 2003.

Mae'r Athro Freedman wedi ysgrifennu'n helaeth ar strategaeth niwclear a'r rhyfel oer, yn ogystal â sylwebu yn rheolaidd ar faterion diogelwch cyfoes.

Ymhlith ei lyfrau mae Kennedy's Wars: Berlin, Cuba, Laos and Vietnam (2000), The Evolution of Nuclear Strategy (3ydd rhifyn 2004), Deterrence (2005), y ddwy gyfrol o Official History of the Falklands Campaign (ail rifyn 2007) a Phapur Adelphi yn dwyn y teitl The Transformation in Strategic Affairs (2004).

Enillodd A Choice of Enemies: America confronts the Middle East, wobr Lionel Gelber yn 2009 a Medal Dug Westminster am Lenyddiaeth Milwrol. Ei lyfr diweddaraf yw Strategy: A History (2013).

Dywedodd Jan Ruzicka, Cyfarwyddwr y Sefydliad: "Rydym yn wirioneddol freintiedig i gael Syr Lawrence Freedman fel ein siaradwr eleni. Yn hanesyddol, mae'r defnydd o rym wedi bod yn sylfaenol i drefn ryngwladol. Yn y byd cythryblus sydd ohoni ar hyn o bryd mae'r materion sydd ynghlwm â'r sefyllfa honno yn fwy cymhleth nag erioed."

Sefydlwyd Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies yn 1951 i goffáu Arglwydd David Davies, Llandinam a chaiff ei gefnogi eleni eto gan Elusen Gwendoline a Margaret Davies.

Mae gwahoddiad agored i bawb fynychu’r ddarlith a derbyniad diodydd sy’n cael ei gynnal yn yr Adran Gwleiddiaeth Ryngwladol am 6 yr hwyr. Mynediad am ddim.