Prifysgol Aberystwyth yn brif noddwr Gwobrau’r Selar

03 Chwefror 2017

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae Prifysgol Aberystwyth yn brif noddwr Gwobrau’r Selar ac yn cynnig cyfle i ennill pedwar tocyn ar gyfer un o brif ddigwyddiadau’r Sin Roc Gymreig.

Caiff i Gobrau’r Selar 2017  eu cynnal  yn Undeb Myfyrwyr y Brifysgol ar ddydd Sadwrn 18fed o Chwefror.

Eleni, bydd Gwobrau’r Selar hefyd yn cynnal noson arbennig yn Neuadd Pantycelyn nos Wener 17 Chwefror i gydnabod cyfraniad oes Geraint Jarman.

Am gyfle i ennill y tocynnau, y cyfan sydd angen ei wneud yw rhannu neges Gwobrau’r Selar o gyfri trydar @prifaber_ir neu hoffi , rhannu, a rhoi sylw dan lun Gwobrau’r Selar ar dudalen Facebook y Brifysgol @prif.aberystwyth.

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw 3 o'r gloch brynhawn Gwener, 10 Chwefror 2017.

Yn ogystal â bod yn brif noddwr, mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn noddi prif wobr y noson sef categori’r Band Gorau.

Ar y rhestr fer ar gyfer eleni y mae Sŵnami, enillwyr 2015, a Candelas enillwyr 2014, a'r grŵp sydd wedi hawlio'r wobr deirgwaith, yn 2010, 2011 a 2012, Y Bandana.

Caiff y wobr ei chyflwyno i’r band buddugol gan Lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Abrystwyth Rhun Dafydd.

Ymysg y perfformwyr eleni bydd Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, HMS Morris, Castles, Chroma, Gwilym Bowen Rhys, Cpt Smith, Ffleur de Lys, Ffracas ac Alffa.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae Aberystwyth yn ganolbwynt pwysig i’r sîn roc Gymraeg ac mae’r Brifysgol wedi bod yn feithrinfa werthfawr tu hwnt ar gyfer bandiau Cymraeg ar hyd y blynyddoedd, a sawl un wedi mynd ymlaen i wneud cyfraniad eithriadol, gan gynnwys Mynediad am Ddim, Y Trwynau Coch ac yn fwy diweddar Yr Ods. Mae’r nawdd i Wobrau’r Selar yn arwydd o gefnogaeth y Brifysgol i fwrlwm y sîn Gymraeg.”

Mae nawdd y Brifysgol o Wobrau’r Selar yn rhan o gefnogaeth ehangach ymarferol y Brifysgol i feithrin talentau newydd y sîn roc Gymraeg.

Ddiwedd mis Ionawr eleni trefnwyd penwythnos o weithdai cerdd ar y cyd gyda Menter Iaith Ceredigion i ddau fand lleol yn yr Hen Goleg.

Cafodd Y Fflamau Gwyllt o Ysgol Gynradd Gymunedol Rhos Helyg, Bronant, a Casset sydd yn wreiddiol o Lanerfyl yn Sir Drefaldwyn ond sydd bellach yn fyfyrwyr yn Aberystwyth, ddiwrnod yr un gyda’r cerddor profiadol Mei Gwynedd.

Bydd Fflamau Gwyllt yn cael cyfle i chwarae mewn gig i nodi Dydd Miwsig Cymru yn y Llew Du yn Aberystwyth am 6.30yh, nos Wener 10 Chwefror 2017.

Mae’r digwyddiad Dydd Miwisg Cymru hwn yn cael ei drefnu gan Cered gyda chefnogaeth Prifysgol Aberystwyth a bydd hefyd yn cynnwys trafodaeth panel gyda threfnwyr gwyliau cerddoriaeth Ceredigion dan gadeiryddiaeth Richard Rees am 7.15 yr hwyr, Cwis Mawr Cerddoriaeth Cymru am 8.30 yr hwyr a cherddoriaeth fyw gan RocCana am 9.45 yr hwyr.