Penparcausaurus i ymuno ag arddangosfa Archaeopteryx yn yr Hen Goleg

Dai y Deinosor ar ei ffordd o swyddfeydd Fformwm Gymunedol Penparcau i’r Hen Goleg yng nghwmni (chwith i’r dde) George Barratt, Fforwm Penparcau, Jeff Dowse a Dai Gornall o Dîm Eiddo Prifysgol Aberystwyth, Nia Davies, Prosiect Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth a Bryn Jones, Fforwm Penparcau.

Dai y Deinosor ar ei ffordd o swyddfeydd Fformwm Gymunedol Penparcau i’r Hen Goleg yng nghwmni (chwith i’r dde) George Barratt, Fforwm Penparcau, Jeff Dowse a Dai Gornall o Dîm Eiddo Prifysgol Aberystwyth, Nia Davies, Prosiect Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth a Bryn Jones, Fforwm Penparcau.

13 Chwefror 2017

Mae deinosor 11 troedfedd o hyd a grëwyd gan grŵp cymunedol o Benparcau ar gyfer carnifal blynyddol Aberystwyth yn rhan o arddangosfa treftadaeth Jwrasig yn yr Hen Goleg.

Bydd Dai y Deinosor yn cymryd ei le yng nghanol y Cwad ochr yn ochr â’r brif arddangosfa sy’n  amlygu hanes yr Archaeopteryx.

Caiff yr arddangosfa ei hagor yn swyddogol gan y naturiaethwr a’r cyflwynydd teledu Iolo Williams am 6.30yh ddydd Mawrth 14 Chwefror.

Cafodd y model o’r Tyrannosaurus Rex ei greu gan aelodau o Fforwm Gymunedol Penparcau - mudiad a sefydlwyd i ddatblygu gweithgareddau a chyfleusterau cynaliadwy a chynhwysol er budd pobl leol.

Gyda genau oedd yn symud a sŵn mawr rhuo, Dai oedd canolbwynt fflôt ‘Jurassic penPARCau’ yng ngharnifal Aberystwyth 2016 ac fe enillodd y wobr am y fflôt orau.

Bydd ymwelwyr i Hen Goleg yn cerdded heibio Dave ar eu ffordd i brif arddangosfa’r  Archaeopteryx, sef deinosor tebyg i aderyn a chanddo grafangau a dannedd miniog.

Gyda chymhorthdal o du Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), mae arddangosfa’r Archaeopteryx ar fenthyg gan Amgueddfa Cymru - National Museum Wales sydd hefyd wedi cydweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth i sicrhau bod casgliadau ffosil y sefydliad hefyd yn cael eu dangos.

Dyddio o'r cyfnod Jwrasig hwyr tua 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl y mae’r Archaeopteryx a’r gred yw mai dyma’r ddolen gyswllt rhwng deinosoriaid cynhanesyddol ac adar yr oes fodern.

Gan fod yr arddangosfa ar agor yn ystod yr hanner tymor ysgol a'r gwyliau Pasg, mae sesiynau treftadaeth rhyngweithiol ar gyfer teuluoedd yn cael eu trefnu mewn partneriaeth ag Amgueddfa Ceredigion.

Mae plant yn cael eu hannog i ddod â'u deinosoriaid tegan eu hunain wrth ymweld er mwyn cael tynnu llun gyda Dai sy’n saith troedfedd o daldra, yn bedair troedfedd ar draws ac yn 11 troedfedd o hyd.

Dywed Karina Shaw, Cyfarwyddwr ac Ymddiriedolwr Fforwm Gymunedol Penparcau, ei bod hi'n falch iawn bod Dai’r Deinosor yn cael cyfle arall i serennu’n gyhoeddus.

"Roedd y broses o greu Dai ar gyfer y carnifal yr haf diwethaf yn wych. Roedd yn fodd o  feithrin cysylltiadau cryfach yn ein cymuned. Rhoddodd rwydwaith i bobl i bwyso arni mewn cyfnodau anodd a grŵp lle'r oedd modd rhannu syniadau a sgiliau. I rai, roedd yn ffynhonnell wych o therapi. I eraill, roedd yn gyfle i ailgysylltu â'u cymuned a theimlo'n rhan o rywbeth arbennig. Mae wedi gwneud pobl yn falch o ble maen nhw’n dod a beth maen nhw wedi ei gyflawni, a byddwn ni’n gallu rhannu hyn yn ehangach eto gan fod Dai nawr yn rhan o’r arddangosfa arbennig yma yn yr Hen Goleg."

Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: "Mae'n hyfryd gweld sut mae'r arddangosfa Treftadaeth Jwrasig yma wedi dod at ei gilydd. Rydym wedi cydweithio’n agos gydag Amgueddfa Cymru – National Museum Wales a Chronfa Dreftadaeth y Loteri i ddod ag Archaeopteryx i Aberystwyth, ac mae'r prosiect yn ei dro wedi ysbrydoli Fforwm Gymunedol Penparcau i ddod â Dai’r Deinosor yn ôl i amlygrwydd unwaith yn rhagor."

Mae Bryn Jones yn Gydlynydd Fforwm Gymunedol Penparcau ac yn aelod o Fwrdd Prosiect yr Hen Goleg: "Cafodd Dai y Deinosor dderbyniad gwresog iawn pan ymddangosodd gyntaf yng Ngharnifal Aberystwyth y llynedd, ac rwy'n siŵr y bydd yn swyno ymwelwyr i'r arddangosfa Archaeopteryx yn yr Hen Goleg hefyd. Mae'r prosiect hwn yn dangos sut mae mudiadau lleol a chenedlaethol yn gallu cydweithio mewn partneriaeth, ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r cynlluniau i drawsnewid yr Hen Goleg yn ganolfan fywiog sy'n dod â phawb ynghyd, gan gynnig cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn ogystal ag arddangos dysgu, ymchwil a menter."

Mae'r arddangosfa Archaeopteryx wedi cael grant o £9,800 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a hwnnw’n cael ei ategu gan rodd hael o £5,000 gan Dr Terry Adams, daearegwr a Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth, ynghyd â £3,700 gan Gronfa Aber.

Ychwanegodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Diolch i gyllid gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae'r prosiect hwn wedi creu cyfle newydd i sefydliadau i weithio gyda'i gilydd er budd pobl leol a thwristiaid. Rydym yn gwybod bod yna gryn ddiddordeb mewn treftadaeth Jwrasig ac mae’r arian hwn yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael cyfle i weld a dod i wybod am gasgliadau pwysig na fyddai fel arall ar gael yn Aberystwyth. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn falch iawn i estyn ei chefnogaeth."

Mae’r Dr Ian Scott a'r Athro Emeritws Richard Hinchliffe o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, a Dr Bill Perkins o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, wedi darparu cynnwys ychwanegol ar gyfer yr arddangosfa.

Ar ôl y noson lansio ar 14 Chwefror, bydd yr arddangosfa ar agor Llun-Sadwrn rhwng 10am a 4pm tan 21 mis Ebrill ac mae mynediad am ddim.

Gallwch ddarllen mwy am wneud Dai y Deinosor mewn erthygl ar-lein a ysgrifennwyd yn 2016 gan Karina Shaw o Fforwm Gymunedol Penparcau.