Y newyddiadurwr a'r darlledwr adnabyddus Dr Owen Bennett-Jones i draddodi dwy ddarlith ym Mhrifysgol Aberystwyth

Dr Owen Bennett-Jones

Dr Owen Bennett-Jones

16 Chwefror 2017

Bydd y newyddiadurwr papurau newydd a darlledu adnabyddus Dr Owen Bennett-Jones yn trafod ei yrfa fel gohebydd gyda’r BBC, a’r berthynas rhwng Al-Qaeda a’r Wladwriaeth Islamaidd mewn dwy ddarlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Llun, 20 Chwefror 2017.

Yn ‘Nation shall speak unto Nation: Reporting in War and Peace from Beirut, Bucharest, Hanoi, Kabul and Islamabad, 1981-2017’, bydd y newyddiadurwr sydd â dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad yn y maes yn ystyried esblygiad y ‘gohebydd tramor’ mewn byd sy’n newid mor gyflym.

Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal yn Narlithfa A12, Adeilad Hugh Owen, Campws Penglais, ac yn dechrau am 3 y prynhawn.

Y berthynas gystadleuol rhwng Al-Qaeda a’r Wladwriaeth Islamaidd, sydd yn aml yn cael eu hystyried yn gymheiriaid ideolegol, fydd yn cael sylw yn ei ail ddarlith.

Yn ‘Al-Qaeda and Islamic State: Brothers in Arms or Rivals?’ bydd Dr Bennett-Jones yn tynnu ar ei brofiadau cyfoethog yn y Dwyrain Canol, Afghanistan, Pakistan a mannau eraill i ddangos fod hyn ymhell o fod yn wir.

Bydd y ddarlith hon yn cael ei chynnal am 5.15 y prynhawn ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Mae’r darlithoedd yn cael eu trefnu gan y Ganolfan Astudiaethau Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol (CIISS) a Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies (DDMI).

Dywedodd Dr Gerry Hughes, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol: “Rydym yn falch iawn bod Dr Owen Bennett-Jones yn mynd i fod yn ymuno â ni i rannu ei brofiad eang a thrafod y gwersi a ddysgodd wrth ohebu mewn amrywiol leoliadau rhyngwladol, megis Beirut, Bucharest, Hanoi, Kabul ac Islamabad, a’i ddadansoddiad o’r berthynas rhwng dau o’r grwpiau terfysg mwyaf dychrynllyd - Al-Qaeda a’r Wladwriaeth Islamaidd. Ychydig iawn o bobl sydd â chyfoeth arbenigedd Dr Bennett-Jones yn y maes hwn, gan iddo adrodd, ysgrifennu ac ymchwilio cymaint ar y pwnc yn fyd-eang.”

Dywedodd Dr Jan Ruzicka, Cyfarwyddwr Sefydliad Coffa David Davies: “Dr Bennett-Jones yw’r diweddaraf mewn cyfres o siaradwyr proffil uchel gan gynnwys cyn-Gynrychiolydd Parhaol y DU i'r Cenhedloedd Unedig, Syr Emyr Jones Parry, ac aelod o Ymchwiliad Irac, Syr Lawrence Freedman, i annerch Prifysgol Aberystwyth ers dechrau’r flwyddyn. Mae eu cyfraniad yn tanlinellu un o’n prif amcanion, i bontio rhwng y bydoedd academaidd ac ymarferol a darparu fforwm ar gyfer rhannu gwahanol safbwyntiau ar rhai o’r heriau pwysicaf yng ngwleidyddiaeth gyfoes y byd.”

Mae’r ddwy ddarlith ar agor i fyfyrwyr, staff ac aelodau o’r cyhoedd, ac yn rhad ac am ddim i’w mynychu.

Dr Owen Bennett-Jones
Brodor o Rhosneigr yn Ynys Môn yw Dr Owen Bennett-Jones (@OwenBennettJone), ac mae wedi gohebu i’r BBC o dros drigain o wledydd. Cafodd y cyfle i gyfweld arlywyddion, prif weinidogion, aelodau gweithredol o Al-Qaeda, ac amrywiaeth o ddinasyddion, milwyr, gwleidyddion a phobl allweddol eraill o fewn gwleidyddiaeth ryngwladol. Bu’n ohebydd tramor preswyl yn Islamabad, Bucharest, Hanoi, Beirut a Genefa. Yn 2008, derbyniodd wobr Sony am ohebydd newyddion y flwyddyn ac yn 2009, ef gafodd Wobr y Gymanwlad am newyddiadurwr y flwyddyn. Mae ganddo raddau o’r London School of Economics a Phrifysgol Rhydychen, a PhD o Brifysgol Hull. Yn 2012, bu Owen Bennett-Jones yn Athro Newyddiaduriaeth Ferris ym Mhrifysgol Princeton a bu’n Athro ymweld ym Mhrifysgol De Califfornia yn 2014.

Cyhoeddwyd cyfrol Owen Bennett-Jones, Pakistan: Eye of the Storm, gan Wasg Prifysgol  Yale, cyfrol y gwelwyd ei thrydydd argraffiad yn 2010. Yn 2012, cyd-ysgrifennodd ddrama radio ynglŷn â’r gwleidydd o Bacistan, Salman Taseer (dan y teitl Blasphemy and the Governor of Punjab). Darlledwyd y ddrama hon ar Radio 4 y BBC a’r BBC World Service. Yn 2013, cyhoeddodd Bennett-Jones ei waith ffuglennol cyntaf, Target Britain, nofel wleidyddol gyffrous wedi’i gosod yng nghyfnod y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth. Cyfrannodd Owen Bennett-Jones i Pakistan and the Karakoram Highway y Lonely Planet, ac mae wedi ysgrifennu ar gyfer y Financial Times, y Guardian, y New Republic, y Spectator, Intelligence and National Security a’r London Review of Books. Ar hyn o bryd, Dr Owen Bennett-Jones yw gohebydd Llundain ar gyfer y papur newydd Dawn (Islamabad) a chyflwynydd Newshour ar y BBC World Service.