Myfyrwraig o’r Eidal yn trefnu rali o gefnogaeth i ymfudwyr a ffoaduriaid

Ganed Irene Cuogo yn yr Eidal. Mae’n fyfyrwraig Astudiaethau Plentyndod yn ei thrydedd blwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae wedi byw yng Nghymru ers 15 mlynedd.

Ganed Irene Cuogo yn yr Eidal. Mae’n fyfyrwraig Astudiaethau Plentyndod yn ei thrydedd blwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae wedi byw yng Nghymru ers 15 mlynedd.

17 Chwefror 2017

Mae Eidales sydd wedi byw yng Nghymru ers 15 mlynedd ac sydd bellach yn fyfyrwraig israddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn trefnu rali o gyd-fyfyrwyr a staff fel rhan o ddiwrnod byd-eang o weithredu i gefnogi mudwyr a ffoaduriaid.

Dywed Irene Cuogo ei bod wedi gweld cynnydd mewn ymddygiad hiliol a senoffobig mewn sawl rhan o'r Deyrnas Unedig ers y bleidlais Brexit ym Mehefin 2016.

Mae hi eisiau dangos bod Prifysgol Aberystwyth, y dref a Cheredigion yn groesawgar, yn gynhwysol ac yn fyd-eang eu hagwedd.

Fel rhan o ymgyrch ryngwladol Un Diwrnod Hebddo Ni, mae Irene yn galw ar gyd-fyfyrwyr, staff ac aelodau o'r gymuned leol i ymgasglu ar y piazza tu allan i Ganolfan y Celfyddydau am 1 o’r gloch amser cinio ddydd Llun 20 Chwefror.

"Mae Ceredigion yn sir bwysig ac annwyl iawn oherwydd ei safbwynt mewn perthynas â ni'r mewnfudwyr, ymfudwyr a ffoaduriaid, a sut y mae ei phobl yn dangos eu cefnogaeth a'u gwerthfawrogiad tuag at ein grŵp yn ddyddiol ers Brexit," meddai Irene.

"Yn fwy penodol, mae tref fywiog ac amrywiol Aberystwyth - gyda'r Brifysgol a llefydd fel Ysbyty Bronglais, yn ogystal â mudiadau llawr gwlad fel Aberaid sy'n cael eu cefnogi gan y cyngor - yn teimlo fwy nag erioed fel hafan ddiogel i bawb, lle na chaniateir i’r naratif senoffobig a hiliol ddod yn rhan o fywyd bod dydd.”

Mi fydd Irene, sy’n fyfyrwraig trydedd flwyddyn ar y cwrs Astudiaethau Plentyndod, yn dosbarthu 'Sticeri Hunaniaeth' i’w chyd-fyfyrwyr a staff, er mwyn ysgrifennu sloganau arnynt am unrhyw agwedd o’u hunaniaeth. Yna mae am iddynt dynnu lluniau ohonynt eu hunain gyda’u sticeri hunaniaeth a'u postio ar rwydweithiau cymdeithasol gyda’r hasinodau #CaruAber a #undiwrnodhebddoni.

Dywedodd Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, yr Athro John Grattan: "Bu Prifysgol Aberystwyth wastad yn fyd-eang ei hagwedd ac rydym yn ymfalchïo yn ein henw da fel cyrchfan groesawgar i ddysgwyr ac ymchwilwyr o bob rhan o'r byd. Mae ein myfyrwyr a staff rhyngwladol yn cyfoethogi pob agwedd o fywyd y campws, a byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i fod yn gymuned amrywiol a chynhwysol."