Arbenigwr blaenllaw ar y gyfraith yn beirniadu Deddf Cymru 2017

Mae’r Athro Rawlings yn Athro'r Gyfraith Gyhoeddus yn UCL.

Mae’r Athro Rawlings yn Athro'r Gyfraith Gyhoeddus yn UCL.

22 Chwefror 2017

Daw’r cam diweddaraf tuag at ‘setliad’ datganoli Cymru o dan lach un o brif arbenigwyr Prydain ar faterion cyfansoddiadol mewn darlith gyhoeddus i’w thraddodi ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd yr Athro Richard Rawlings yn trafod goblygiadau Deddf Cymru 2017, sef y bedwaredd bennod yn natblygiad deddfwriaeth datganoli yng Nghymru o fewn ugain mlynedd.

Caiff ei ddarlith Strange Days? Reworking the Welsh Devolution ‘Settlement’ ei chynnal am 5yh Ddydd Mercher 22 Chwefror 2017 ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd yr Athro Rawlings sy’n Athro’r Gyfraith Gyhoeddus yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) ac yn Athro Nodedig Er Anrhydedd yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd: “Wedi’i fframio’n rhannol gan waith Comisiwn Silk, a dan ddylanwad datblygiadau cyfansoddiadol yr Alban yn sgil y refferendwm ar annibyniaeth yn 2014, mae’r broses o ddatblygu deddfwriaeth wedi bod yn un hir a phoenus ar y cyfan.

“Mae’n broses sydd wedi mynd o gyfaddawdu gwleidyddol disynnwyr i ystrywiau Whitehall; ac o fesur drafft a gam-fodelwyd i Fesur Cyfansoddiadol lledfenol; ac yng nghyd-destun Brexit, at gwestiwn dryslyd cydsyniad deddfwriaethol.

“Roedd yna obeithion uchel ar y dechrau y byddai modd datrys cwestiwn datganoli Cymru, gan ddod â newid strwythurol sylfaenol drwy gyfrwng model pwerau cadw ynghyd â sefydlogrwydd ariannol. Serch hynny, mae’n glir bod y bwriad hwn wedi’i danseilio mewn modd anghynhwysol, tameidiog a hyd yn oed niweidiol.

“Ymhell o’u distewi, bydd Deddf Cymru 2017 yn cynyddu’r pwysau ar gyfer datblygiad cyfansoddiadol, a hynny’n fwyaf amlwg o dan benawdau bras ‘awdurdodaeth’ a ‘gweithredu cyfiawnder’. I addasu dyfyniad cyfarwydd, mae datganoli’n cael ei weld unwaith eto fel cyfres o brosesau nid digwyddiad.”

Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth, a lansiwyd yn ddiweddar, sydd wedi trefnu darlith yr Athro Rawlings.

Wedi’i hariannu gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), mae’n ganolfan ymchwil amlddisgyblaethol sy’n anelu at ddatblygu dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Cymru a chyfrannu at drafodaethau polisi cyhoeddus.

Cefndir yr Athro Rawlings

Mae Rick Rawlings yn Athro'r Gyfraith Gyhoeddus yn UCL ac yn Athro Nodedig er Anrhydedd yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn Brif Gymrawd Ymchwil Ymddiriedolaeth Leverhulme; yn Feinciwr er Anrhydedd yn y Deml Ganol; yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru; ac yn Gymrawd Oes y Sefydliad Materion Cymreig. Mae’n gyn Ymgynghorydd Cyfreithiol I Bwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi ac ar hyn o bryd mae’n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymru Comisiwn y Gyfraith.

Mae gan yr Athro Rawlings arbenigedd ym maes cyfraith gyfansoddiadol a gweinyddol, gan gynnwys cyfansoddiad tiriogaethol y DU a chysylltiadau rhynglywodraethol; adolygu cyfiawnder ac iawnderau dynol; a deddfwriaeth a llywodraethiant yr UE. Mae’n arloesi ym maes astudio’r gyfraith a llywodraethiant yng Nghymru yng ngoleuni trefniadau datganoli sy’n esblygu’n gyflym.

Ymhlith ei gyhoeddiadau niferus mae monograffau a chyfrolau blaenllaw megis Delineating Wales: Constitutional, Legal and Administrative Aspects of National Devolution (2003); Devolution, Law-making and the Constitution (2005); Law and Administration (3rd edn 2009) (gyda Carol Harlow); The Regulatory State: Constitutional Implications (2010); Sovereignty and the Law (2013); a Process and Procedure in EU Administration (2014) (gyda Carol Harlow).