'Arwyr ydym ni': Myfyrwyr yn cynnal gweithdai celf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Aelodau o’r tîm myfyrwyr sy’n trefnu sesiynau ‘Arwyr ydym ni’ yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Aelodau o’r tîm myfyrwyr sy’n trefnu sesiynau ‘Arwyr ydym ni’ yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

22 Chwefror 2017

Mi fydd myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn annog plant a phobl ifanc i fod yn greadigol mewn cyfres o weithdai celf ymarferol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 22 a 25 Chwefror 2017.

Bydd y gweithdai yn trafod chwedlau Cymru a straeon am arwyr hynafol, dirgelwch a hud a lledrith, gyda sesiynau ar wneud masgiau, gweithio gyda chlai, paentio a chreu hunanbortreadau.

Bydd sesiwn hefyd ar fyd dirgel y Aztec.

Datblygwyd y sesiynau ar y thema 'Arwyr ydym ni', ac mae’r wythnos o weithgareddau'r yn adeiladu ar Flwyddyn y Chwedlau Croeso Cymru, ac wedi eu llunio gan dîm gwirfoddol o fyfyrwyr sy’n astudio modiwl Addysg a Dehongli Oriel ac Amgueddfa a’r Brifysgol.

Dywedodd Alison Pierse, Cydlynydd Celf a Dylunio'r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes: "Mae’r myfyrwyr wedi cymryd y cyfrifoldeb o redeg y rhaglen hon eu hunain ers nifer o flynyddoedd, gan gynnig cyfleoedd dysgu bywiog i bobl ifanc a theuluoedd lleol.

“Mae'n cynnig cyfle amhrisiadwy i’r myfyrwyr i gael profiad o gynllunio a darparu gweithgareddau i helpu i edrych ar waith celf mewn ffordd wahanol ac ehangu mynediad i'n hamgueddfeydd a’n llyfrgelloedd. I mi mae'n fraint gweld y myfyrwyr yn rhoi’r hyn maent yn ei ddysgu ar waith."

Mae pob sesiwn yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol. Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw ac mae tocynnau ar gael ar-lein neu drwy ffonio 01970 632548.

Rhaglen ‘Arwyr ydym ni’:
Dydd Mercher 22 Chwefror
2-4yp
Blwchffoto - Gwisgo i fyny a chreu masgiau

Dydd Iau 23 Chwefror
11yb-1yp
Gweithdy Clai - Dewch i wneud pen mewn clai. Hunan-bortread neu dull rhydd.
2-4yp
Creu eich hunlun - Creu hunanbortread gyda deunyddiau crefft

Dydd Sadwrn 25 Chwefror
11yb-1yp
Chwedlau Aztec – cyfle i brofi oes arall ac adeiladu strwythurau oes yr Aztec
2-4yp
Paentio Arwr - Peintiwch eich arwyr chi, chwedlau a mythau

Mae’r fyfyrwraig Dysgu Gydol Oes Candy Bedworth yn un o'r rhai sy'n arwain: "Mae gweithio gyda phlant yn brofiad gwych, nid ydynt yn cyfyngu eu hunain i reolau a disgwyliadau felly mae pob plentyn yn creu rhywbeth gwirioneddol unigryw. Rydym yn ffodus yn Aberystwyth i gael y cyfleoedd hyn i gymryd yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu a'i gymhwyso mewn ffordd mor ymarferol ac mewn lleoliad mor wych fel y Llyfrgell Genedlaethol.

"I mi yn bersonol dwi'n edrych ymlaen yn arbennig at y Gweithdy Clai lle gallwch greu naill ai hunan-gerflun neu fwystfil chwedlonol - rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y canlyniadau"

Mae Rhodri Morgan, Swyddog Addysg yn y Llyfrgell Genedlaethol yn edrych ymlaen at groesawu'r egin-artistiaid: "Rydym yn ffodus iawn o allu gweithio mor agos gyda'r Brifysgol ar amrywiaeth o weithgareddau ac mae Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr yn tynnu sylw at barodrwydd y myfyrwyr i gymryd rhan weithredol â'r gymuned leol - a'r newyddion da yw bod yna gymaint o ddiddordeb gyda rhai o'r sesiynau eisoes yn llawn."