Prifysgol Aberystwyth yn dathlu ei chymuned ryngwladol gydag Wythnos Un Byd

Aelodau o gymuned myfyrwyr Malaysia ym Mhrifysgol Aberystwyth yn paratoi i ddathlu noson Malaysia 2017.

Aelodau o gymuned myfyrwyr Malaysia ym Mhrifysgol Aberystwyth yn paratoi i ddathlu noson Malaysia 2017.

28 Chwefror 2017

Bydd Cymdeithas Malaysia Aberystwyth yn lansio dathliadau wythnos ryngwladol flynyddol Prifysgol Aberystwyth gyda gwledd o fwyd, cerddoriaeth a dawns draddodiadol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Sadwrn 4 Mawrth.

'Jiwa: The Soul of Malaysia' fydd digwyddiad cyntaf Wythnos Un Byd sy'n cael ei threfnu gan Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol gyda chefnogaeth Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ac yn para tan ddydd Gwener 10 Mawrth, 2017.

Mae raglen yr wythnos, sydd ar gael ar-lein, yn cynnwys noson gala o berfformiadau o bob cwr o'r byd ar nos Llun 6 Mawrth, dangosiad arbennig o'r ffilm  'Dry' a Cwis Mawr Rhyngwladol ar nos Fercher 8 Mawrth, a Ffair Fwyd y Byd ar ddydd Iau 9 Mawrth.

Cafodd ‘Dry’ ei dangos am y tro cyntaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn 2014 a’i ffilmio yn Aberystwyth a Nigeria, ac mae’n cynnwys y seren o Nollywood Stephanie Linus.

I gwblhau rhaglen yr wythnos bydd trafodaeth bord gron yn cael ei chynnal yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar nos Iau 9 Mawrth ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches, profiadau a chanfyddiadau.

Bydd cyfle hefyd i flasu prydau traddodiadol o Corea, Gwlad Pwyl, Twrci, Sbaen ac Affrica ym mwyty arobryn TaMed Da ar Gampws Penglais o ddydd Llun 6 Mawrth tan ddydd Gwener 10 Mawrth.

Mae gwahoddiad hefyd i fyfyrwyr gymryd rhan yng nghystadleuaeth ffotograffig Wythnos Un Byd, ac i anfon lluniau mewn sy'n dangos eu cyfranogiad, paratoadau tu ôl i'r llenni, a beth mae'r wythnos yn ei olygu iddynt.

Dywedodd Emir Mohamad Fauzi, Swyddog Rhyngwladol yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: "Wythnos Un Byd yw un o fy hoff wythnosau o’r flwyddyn gyfan yn Aber gan ei bod yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr rhyngwladol a chartref ddod at ei gilydd i arddangos eu diwylliant ac yn caniatáu i fyfyrwyr rhyngwladol i deimlo'n gartrefol. Mae mor bwysig i mi gan mai Wythnos Un Byd yw’r cyfnod pan rwy’n gallu profi pa mor amrywiol yw Aberystwyth."

Dywedodd Hazim Jasman, Swyddog BME yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: “Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn adeiladu cymuned lle mae amrywiaeth a gwahaniaethau yn cael eu hyrwyddo a'u dathlu. Trwy Wythnos Un Byd, gallwn ddangos sut y mae’r undod mewn amrywiaeth hwn yn galluogi pobl o wahanol ddiwylliannau i fyw gyda’i gilydd ac adeiladu tir cyffredin. Mae'r digwyddiad hwn y treiddio drwy’r gymdeithas, yn fyfyrwyr rhyngwladol neu gartref. Mae'n gyfle i ddathlu’r gymysgedd ddiwylliannol a dysgu i adeiladu cymdeithas amrywiol a chynhwysol lle gallwn dderbyn y gwahaniaethau sy'n gwneud y gymuned yn un fawr.”

Dywedodd Rosa Soto, Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol yn Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol: "Mae Prifysgol Aberystwyth yn gymuned fywiog o fyfyrwyr o 119 o genhedloedd gwahanol ac rydym yn falch eithriadol o’n cymuned fyd-eang a chynhwysol; rydym yn cydnabod y manteision ariannol a diwylliannol y mae myfyrwyr rhyngwladol yn eu cyfrannu at fywyd y brifysgol a'r gymuned leol, ac yn gwybod gwerth astudio a gweithio ochr yn ochr â'i gilydd ar gyfer ein holl fyfyrwyr rhyngwladol a chartref yn ogystal â staff.

"Mae Wythnos Un Byd yn ben llanw sawl wythnos o gynllunio ar y cyd gan fyfyrwyr rhyngwladol a chartref, lle maent yn cyfarfod myfyrwyr o wahanol ddiwylliannau, yn gwneud ffrindiau newydd byd-eang, a mwy. Mae gweithio gyda myfyrwyr ar Wythnos Un Byd bob amser yn bleser ac yn llawer o hwyl. Mae eu hegni a'u brwdfrydedd yn wych ac rwy'n gobeithio y bydd myfyrwyr, staff ac aelodau o'r gymuned yn mynychu’r digwyddiadau a drefnwyd yn ystod yr wythnos i ddathlu ein cymuned amrywiol fyd-eang”, ychwanegodd Rosa.

Ceir rhagor o wybodaeth am Wythnos Un Byd ar gael ar-lein ac ar Dudalen Facebook Wythnos Un Byd Aberystwyth 2017.

Yn y cyfamser, mae aelodau o Gymdeithas Malaysia Aberystwyth wedi cynhyrchu fideo hyrwyddo ar gyfer noson Malaysia nos Sadwrn 4 Mawrth. Mae tocynnau ar gael ar-lein o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac am £10 (cynnar), £12 (safonol) a £15 (VIP).