Dathlu 125 mlwyddiant Cymdeithas y Cyn Fyfyrwyr

Yr Hen Golg, Prifysgol Aberystwyth

Yr Hen Golg, Prifysgol Aberystwyth

28 Chwefror 2017

Bydd 125 mlwyddiant Cymdeithas Cyn Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cael ei nodi yn ystod y cinio Dydd Gŵyl Dewi blynyddol sy’n cael ei gynnal yn y Guildhall yn Llundain.

Caiff y cinio gala ei drefnu'n flynyddol gan fudiad Cymru yn Llundain i ddathlu bywyd Cymreig y ddinas, ac mae'r digwyddiad ar 28 Chwefror 2017 yn gyfle amserol i ddathlu penblwydd arbennig Cymdeithas Cyn Fyfyrwyr Aber. 

Eleni, mae cysylltiad arall rhwng Prifysgol Aberystwyth a Chinio Dydd Gŵyl Dewi, gan taw Anne Davies, aelod o Gyngor y Brifysgol, yw Llywydd y noson.

Wedi’i sefydlu ar 2 Mawrth 1892, Cymdeithas Cyn Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yw un o'r mudiadau alumni hynaf o'i fath yn y byd gyda dros 9,000 o aelodau bellach ym mhedwar ban.

Yn ogystal â dathlu llwyddiannau hanesyddol Cymdeithas y Cyn Fyfyrwyr, bydd y cinio gala yn gyfle i edrych i'r dyfodol drwy ganolbwyntio ar y cynlluniau cyffrous ar gyfer Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (AIEC).

Bydd y prosiect £40.5m yn darparu adnoddau sy’n arwain y byd ynghyd ag arbenigedd ar gyfer y diwydiant technoleg amaeth a’r sector bio-wyddoniaeth, ac mae'n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru; gan y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a Phrifysgol Aberystwyth.

Wrth siarad yn ei rôl fel Llywydd presennol y Gymdeithas, dywedodd Stephen Lawrence: "Gall Cymdeithas Cyn Fyfyrwyr Aberystwyth hawlio hanes di-dor o gyfarfodydd blynyddol yn mynd yn ôl at y flwyddyn y cafodd ei sefydlu. Ni fethwyd yr un cyfarfod hyd yn oed yn ystod y ddau ryfel byd ac mae hynny'n dipyn o gamp. Mae’n briodol mai yn Llundain mae’r dathliadau yn dechrau gan mai un o Gymry blaenllaw Llundain, Syr Hugh Owen, arweiniodd yr ymgyrch i sefydlu’r Brifysgol yn y lle cyntaf.

"Mae’n 125 mlwyddiant yn gyfle i ddathlu'r hoffter sydd gennym ni gyd tuag at y coleg  hanesyddol a hoffus hwn ger y lli. Yn gyn-fyfyrwyr ac yn gyn aelodau o staff mewn mwy na 150 o wledydd gwahanol, rydym eisiau mynegi’n diolch i Aber a rhoi rhywbeth yn ôl. Rydym yn gwneud hynny drwy weithredu fel llysgenhadon parod ar gyfer y Brifysgol, trwy ddarparu bwrsarïau ac ysgoloriaethau, a thrwy gynnig rhwydwaith cefnogol ar gyfer graddedigion eraill Aber. Yn ddi-os, yr edafedd aur o'r cyfarfod cyntaf hwnnw nôl ym 1892 hyd heddiw yw cymrodoriaeth a gwasanaeth."

Ymhlith y digwyddiadau eraill lle caiff y 125 mlwyddiant ei ddathlu mae:

• 3 Mehefin, 2017: Darlith Llanymddyfri gan y Farwnes Kay Andrews

• 25 Gorffennaf 2017: Derbyniad Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd

• 9 Awst 2017: Aduniad Eisteddfod Genedlaethol Cymru

• 18-20 Awst 2017: Aduniad Blynyddol y Gymdeithas

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth, Louise Jagger: "Mae aelodau Cymdeithas y Cyn Fyfyrwyr yn gwneud cyfraniad aruthrol i lwyddiant y Brifysgol ac wrth eu llongyfarch ar eu penblwydd yn 125 oed, hoffwn hefyd gymryd y cyfle i ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth werthfawr dros y blynyddoedd. Wrth i ni edrych yn ôl ar hanes y Gymdeithas, rydym hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer yr Hen Goleg a phrosiectau cyffrous eraill."

Mae aelodaeth o'r Gymdeithas yn agored i holl gyn-fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth.

Bydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn darparu amgylchedd blaengar lle y gall cydweithredu rhwng busnes a’r byd academaidd ffynnu drwy gynnig ystod o adnoddau o safon uchel i helpu i wireddu posibiliadau gwaith ymchwil ac arloesi, a chynnig cyfle i fentrau masnachol i dyfu, ffynnu a sbarduno twf economaidd yn yr ardal a thu hwnt.