Seddi newydd i Sinema Canolfan y Celfyddydau

Chwith i’r Dde: Cyfarwyddwr Dros Dro Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Louise Amery, Taflunwraig a Thechnegydd Sinema Nia Edwards-Behi, Rheolwr Sinema Gareth Bailey a’r Tafluniwr Przemyslaw Sobkowicz.

Chwith i’r Dde: Cyfarwyddwr Dros Dro Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Louise Amery, Taflunwraig a Thechnegydd Sinema Nia Edwards-Behi, Rheolwr Sinema Gareth Bailey a’r Tafluniwr Przemyslaw Sobkowicz.

03 Mawrth 2017

Bydd dilynwyr brwd byd y ffilmiau sy'n mwynhau rhaglen boblogaidd ac amrywiol sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn gallu mwynhau dangosiadau mewn amgylchiadau mwy moethusrwydd yn fuan iawn.

Mae'r sinema, gafodd ei hagor yn 2000 fel rhan o estyniad sylweddol i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ar gau am wythnos tra'i bod yn cael ei hadnewyddu a seddau newydd mwy o faint yn cael eu gosod yn eu lle.

Bydd yn agor o’r newydd ddydd Mercher 8 Mawrth gyda dangosiad arbennig o'r clasur o’r 80au Ghostbusters, hoff ffilm y cyn-dafluniwr annwyl Paul Davis a fu farw'n sydyn yn 2014. Mae’r adnewyddiad yn cael ei gyflwyno er cof amdano.

Dechreuwyd ar y gwaith o waredu’r hen seddi, sydd wedi gwasanaethu cynulleidfaoedd am dros 16 mlynedd, ar ddydd Mercher 1 Mawrth gyda'r gorau o'r hen seddi yn cael eu cynnig i aelodau o'r cyhoedd.

Bydd y sinema ar ei newydd wedd yn cynnig lle i 112 ac yn cynnwys seddi dwbl yn y rhes gefn ar gyfer rhieni â phlant ifanc neu gyplau mwy rhamantus.

Yn ogystal bydd gwell mynediad i'r anabl, ac am y tro cyntaf, bydd yn bosibl archebu seddau penodol ymlaen llaw. A bydd prisiau tocynnau hefyd yn aros yr un peth.

Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Louise Amery: "Rydym wrth ein bodd bod ein cynlluniau i adnewyddu'r sinema yn dod i drefn. Mae'r sinema yn cael ei rhedeg gan dîm bach brwdfrydig, Gareth Bayley Rheolwr y Sinema a’r daflunwraig Nia Edwards-Behi, sydd yn ymroddedig i’r gwaith o ddarparu rhaglen amrywiol, ddiddorol a difyr sy'n apelio at bawb. Eu dymuniad nhw oedd ein bod yn cyflwyno'r dangosiad cyntaf hwn i Paul, rhywun yr ydym yn gweld ei eisiau yn fawr iawn."

Ar nos Iau 9 Mawrth bydd y sinema yn dangos cynhyrchiad modern o gampwaith Ibsen, Hedda Gabler, y dangosiad diweddaraf yn y gyfres hynod boblogaidd NT Live.

Ymysg y dangosiadau eraill yn ystod mis Mawrth mae Sing, sy’n cynnwys seren y ffilm Eddie the Eagle a chyn aelod o theatr ieuenctid ac ysgol lwyfan Canolfan y Celfyddydau Taron Egerton, a Don’t Take Me Home, sy’n dilyn hynt tîm pêl-droed Cymru yn ystod rowndiau terfynol Euro2016.

Ac yn ystod wythnos olaf mis Mawrth bydd y sinema yn cynnal Gŵyl Ffilm Un Byd Cymru sy'n dod â’r gorau o sinemâu’r byd i Aberystwyth ar daith sy'n cynnwys Nepal, Gwlad Thai, Chile, Colombia, Mali a Phalesteina.

Mae'r sinema yn rhan o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi ennill sawl wobr. Hi yw'r ganolfan fwyaf o'i math yng Nghymru ac fe'i hystyrir yn genedlaethol fel canolfan flaenllaw ac arloesol ym myd y celfyddydau.

Mae Canolfan y Celfyddydau yn rhan o Athrofa’r Celfyddydau a'r Dyniaethau Prifysgol Aberystwyth ac yn cael ei chydnabod a'i chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r Ganolfan yn cynnig rhaglen artistig eang, o safbwynt cynhyrchu a chyflwyno, ar draws holl ystod y celfyddydau gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, cyfryngau newydd a chelfyddydau cymunedol ac fe'i cydnabyddir fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu'r celfyddydau.