Arddangosfa Gelf: Cutting Edge: The British Print from Hayter to Hockney 1960 to 1980

Derrick Greaves, 'Lapel', print sgrîn, 1967

Derrick Greaves, 'Lapel', print sgrîn, 1967

06 Mawrth 2017

Mae arddangosfa sy’n bwrw golwg ar yr hyn oedd yn digwydd ar flaen y gad ym maes llunio printiau ym Mhrydain o’r 1960au tan yr 1980au cynnar yn agor heddiw yn Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwaith gan Stanley William Hayter, Jeffrey Steele, Prunella Clough, Derrick Greaves, William Scott, John Piper a David Hockney.

Dewiswyd y gweithiau yn bennaf o Gasgliad Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, a elwodd o rodd o brintiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2002.

Mae Colin Cruise, Athro Hanes Celf yn yr Ysgol Gelf, yn esbonio cefndir yr arddangosfa:

“Yn y 1960au, trodd artistiaid Prydeinig eu cefnau ar dechnegau traddodiadol o weithio, nid yn unig wrth baentio a cherflunio ond wrth lunio printiau yn ogystal.

“Bu adfywiad mewn llunio printiau yn ystod degawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif, a phwyslais ar ysgythru a oedd yn gofyn am allu i lunio ffurfiau neu dirwedd gwirioneddol fedrus yn ogystal â medrusrwydd yn elfennau’r grefft o lunio printiau.

“Yn y 1960au dechreuodd artistiaid Prydeinig ddefnyddio sgrin-brintio a oedd yn gweddu i Haniaethwyr Caledlin a delweddaeth Celfyddyd Bop, wedi eu hysbrydoli gan esiampl artistiaid Americanaidd oedd yn gweithio yn Efrog Newydd yn gynharach yn y ddegawd.

“Enillodd ‘Op Art’, gyda’i ddefnydd o streipiau a dotiau, lawer hefyd oddi wrth natur ddiwydiannol a glân printio sgrin sidan.

“Ar yr un pryd, roedd arbrofion newydd ym maes lithograffi a chyfuniadau o dechnegau, yn aml yn cynnwys ffotograffau a gludwaith, yn golygu bod llunio printiau ym Mhrydain yn ddull bywiog a chyffrous.

“Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys gweithiau a fu ar flaen y gad ym maes llunio printiau ym Mhrydain o’r chwedegau tan yr wythdegau cynnar.”

ByddCutting Edge: The British Print from Hayter to Hockney 1960 to 1980i’w gweld yn Oriel yr Ysgol Gelf, Buarth Mawr, Aberystwyth o 6 Mawrth tan 12 Mai 2017.  Mae’r Oriel ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10:00 tan 17:00, ond bydd ar gau dros y Pasg 14-18 Ebrill. Mynediad am ddim.

 

AU8417