Arddangosfa Gelf: O'r Ystafell Fywlunio: lluniau ac astudiaethau ffigyrau'r Ysgol Gelf ers 1800

Hugh Blaker, bywluniad o ddechrau'r 20fed ganrif (dim dyddiad), creon coch ar bapur

Hugh Blaker, bywluniad o ddechrau'r 20fed ganrif (dim dyddiad), creon coch ar bapur

07 Mawrth 2017

Yr wythnos hon, yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, bydd arddangosfa yn agor o luniau a phaentiadau sy'n cynnig golwg ar arferion lluniadu yn ysgolion celf Prydain dros y ddwy ganrif ddiwethaf.

Yr Athro Robert Meyrick, Pennaeth yr Ysgol Gelf, sy'n esbonio'r syniad a ysgogodd yr arddangosfa: “Gellid dadlau mai tynnu lluniau o'r ffigwr dynol yw'r prawf pennaf oll o fedrau'r myfyriwr, o ran cydlynu'r llaw a'r llygad, hyfedredd gwaith y dwylo a mynegiant.

“Ers canrifoedd, ystyrid bod tynnu lluniau o'r ffurf ddynol yn yr ystafell fywlunio yn rhan hanfodol o hyfforddiant proffesiynol yr arlunydd. Ac mae dosbarthiadau bywlunio yn dal i fod yn rhan bwysig o ddysgu arlunwyr yn Aberystwyth. 

“Mae'r arddangosfa hon o ddarluniau a phaentiadau, sy'n dod yn bennaf o gasgliad Amgueddfa'r Ysgol Gelf, yn cynnwys gwaith gan nifer o enwogion yng nghrefft darlunio'r ffigwr a'r ffurf ddynol, ynghyd â gwaith cyn-fyfyrwyr Aberystwyth.”

Mae'r arddangosfa yn cynnwys gwaith gan Hugh Blaker, George Chapman, John Elwyn, William Etty, Evelyn Gibbs, John Minton, Keith Vaughan a Christopher Williams.

Dangosir y gwaith ochr-yn-ochr ag enghreifftiau o eitemau a ddefnyddir wrth ddysgu bywlunio: castiau plastr o gerfluniau'r henfyd, sgerbwd, llawlyfrau anatomeg a modelau pren.

Bydd 'O'r Ystafell Fywlunio: lluniau ac astudiaethau ffigyrau'r Ysgol Gelf ers 1800' ar agor i'w gweld yn Oriel yr Ysgol Gelf, Buarth Mawr, Aberystwyth o 6 Mawrth tan 12 Mai 2017.  Mae'r Oriel ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10:00 tan 17:00, (ar gau dros y Pasg, 14-18 Ebrill). Mynediad am ddim.

 

AU8617