Gwobrau Dydd Gŵyl Dewi

Dathlu Gwobrau Gwyl Dewi Prifysgol Aberystwyth (Chwith i'r Dde): Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Dr Eurig Salisbury, Mair Daker (Pencampwr y Gymraeg – Staff), Ian Gwyn Hughes (Cymdeithas Bêl-droed Cymru), Jaci Taylor (Cyfraniad Oes), Jeff Smith (Pencampwr y Gymraeg - Myfyriwr), Jamie Holder (Cyfraniad Arbennig), Felicity Roberts (Cyfraniad Oes), Owen Howell (Astudio Drwy'r Gymraeg) a Faaeza Jasdanwalla-Williams (Dysgwr Rhagorol).

Dathlu Gwobrau Gwyl Dewi Prifysgol Aberystwyth (Chwith i'r Dde): Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Dr Eurig Salisbury, Mair Daker (Pencampwr y Gymraeg – Staff), Ian Gwyn Hughes (Cymdeithas Bêl-droed Cymru), Jaci Taylor (Cyfraniad Oes), Jeff Smith (Pencampwr y Gymraeg - Myfyriwr), Jamie Holder (Cyfraniad Arbennig), Felicity Roberts (Cyfraniad Oes), Owen Howell (Astudio Drwy'r Gymraeg) a Faaeza Jasdanwalla-Williams (Dysgwr Rhagorol).

07 Mawrth 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu saith o bobl am eu cyfraniad at y Gymraeg mewn seremoni arbennig yn yr Hen Goleg heno (Nos Fawrth 7 Mawrth 2017).

Cafodd y saith unigolyn eu henwebu gan staff a myfyrwyr y Brifysgol cyn cael eu cymeradwyo gan banel dethol ar gyfer Gwobrau Dydd Gŵyl Dewi cynta’r sefydliad.

Cyflwynwyd y gwobrau gan westai gwadd y noson - Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Allanol Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chyn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf, yn fyfyrwyr ac yn staff, roedd y saith enillydd wedi’u dewis o chwe chategori gwahanol:
•    Cyfraniad Oes - Felicity Roberts a Jaci Taylor
•    Cydnabyddiaeth Arbennig - Jamie Holder  
•    Dysgwr Rhagorol - Faaeza Jasdanwalla-Williams
•    Pencampwr y Gymraeg (Staff) - Mair Daker
•    Astudio Drwy’r Gymraeg - Owen Howell
•    Pencampwr y Gymraeg (Myfyriwr) - Jeff Smith

Fe dderbyniodd pob un o’r enillwyr englyn personol gan Eurig Salisbury, bardd a nofelydd sydd hefyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol.

Wrth gyhoeddi enwau’r enillwyr, dywedodd Ian Gwyn Hughes: “Mae'n fraint cael bod nôl yn yr Hen Goleg am y tro cyntaf ers i mi raddio o Brifysgol Aberystwyth yn 1981. Mae'r adeilad yma yn y Coleg Ger y Lli yn arwyddocaol i'n hanes a'n traddodiad fel cenedl. Mae'n bwysig hefyd bod sefydliadau yn dathlu'r Gymraeg a'i diwylliant - a'm neges i bob un sy'n dysgu yw peidiwch bod ofn defnyddio'r iaith.”

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg: “Nod ein Gwobrau Dydd Gŵyl Dewi yw tynnu sylw at yr holl waith sy’n cael ei wneud i hyrwyddo’r Gymraeg yn y Brifysgol - gwaith sy’n aml yn cael ei wneud yn dawel bach ond gydag ymroddiad ac angerdd wrth ei wraidd. Mawr yw ein dyled ni fel sefydliad i’r unigolion hynny sy’n cyfoethogi’n diwylliant dwyieithog ac sy’n sbarduno eraill i gofleidio’r Gymraeg.”

Gwobrau Dydd Gŵyl Dewi / St David’s Day Awards

Yr Enillwyr
Felicity Roberts (Cyfraniad Oes): Yn wreiddiol o Chwilog ger Pwllheli, mae Felicity wedi bod yn dysgu Cymraeg i oedolion yn Aberystwyth ers 1968. Daeth yn un o sylfaenwyr CYD sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg rhwng siaradwyr rhugl a dysgwyr. Bu’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth am 27 mlynedd ac yn 2007, fe’i penodwyd yn Diwtor Drefnydd gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth. Mae’n dal i diwtora 12 awr yr wythnos ac yn Gydlynydd Cwrs Haf Dwys Cymraeg Prifysgol Aberystwyth sydd yn rhedeg drwy fis Awst ac yn denu pobl o bedwar ban y byd.

Jaci Taylor (Cyfraniad Oes): Ganed a magwyd Jaci yn ardal Birmingham ond symudodd i Gymru ym 1974, gan ymgartrefu yn Aberystwyth yn 1980 a dechrau dysgu Cymraeg. Erbyn 1984 roedd wedi dod yn diwtor Cymraeg ei hun gan weithio i’r Brifysgol a Chyngor Sir Ceredigion. Bu’n gyfrifol am drefnu a chynnal cyrsiau dwys yng Ngholeg Addysg Bellach Ceredigion yn ogystal. Yn un o sylfaenwyr CYD yn y Canolbarth yn y 1980au, cafodd Jaci ei phenodi’n Gydlynydd CYD yn 1996 ac yna’n Gyfarwyddwr. Yn 2007, fe’i penodwyd yn Swyddog Datblygu Canolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth a bu tan ei hymddeoliad ym mis Ionawr, 2017.

Jamie Holder (Cyfraniad Arbennig): Mae Jamie wedi bod yn wyneb cyfarwydd i unrhywun sydd wedi galw heibio caffi Canolfan Celfyddydau Aberystwyth mewn cyfnod o bron i chwarter canrif rhwng 1992-2016. Roedd yn defnyddio’i Gymraeg yn naturiol yn ei waith bob dydd a’i wasanaeth bob amser yn siriol a chroesawgar. Mae Jamie bellach wedi gadael y Ganolfan ond mae ei wen barod i’w gweld o hyd y tu ôl i’r cownter fwyd ym mwyty Pendinas yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Faaeza Jasdanwalla-Williams (Dysgwr Rhagorol): Hanu o Mumbai, India, mae teulu Faaeza. Mae hi’n  gweithio fel darlithydd rhan amser yn Adran Hanes y Brifysgol ac fel Cynorthwyydd Cymorth Llyfrgell yn yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth. Mae wedi goresgyn anawsterau gan gynnwys nam difrifol ar ei golwg wrth iddi ddysgu Cymraeg. Gellir gweld ei llwybr cynnydd wrth iddi lwyddo yn ei harholiadau ac mae ei hymdrech wedi’i werthfawrogi gan nifer o staff wrth i enwebwyr gyfeirio ati fel “ysbrydoliaeth”. Mae hi’n annog ei chydweithwyr i ddilyn ôl ei thared a mynd ati i ddysgu neu ymarfer eu Cymraeg.

Mair Daker (Pencampwr y Gymraeg – Staff): Mae Mair yn gweithio yn Llyfrgell Thomas Parry ac mae’n cael effaith amlwg effaith ar y ffordd y mae staff yn y Brifysgol yn defnyddio’r Gymraeg.  Mae wedi bod yn defnyddio geiriau a thermau Cymraeg dros e-bost wrth ohebu ag aelodau staff di-Gymraeg gan roi cyfieithiad o’r geiriau hyn wrth eu hymyl, yn ogystal â threfnu sesiwn dysgu termau Cymraeg sylfaenol ar gyfer staff y llyfrgell. Mae hi hefyd yn ceisio annog a chynorthwyo myfyrwyr i’w defnyddio.

Owen Howell (Astudio drwy’r Gymaeg): Brodor o Ferthyr Tudful yw Owen ac mae’n dod o gefndir di-Gymraeg. Saesneg oedd iaith yr aelwyd ac ni fynychodd ysgol Gymraeg ond penderfynodd ei fod eisiau newid hynny ar ôl dod i ymweld â Phrifysgol Aberystwyth. Mae bellach yn astudio cynllun gradd cydanrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, sef Cymraeg (Ail Iaith) a Daearyddiaeth Ddynol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Jeff Smith (Pencampwr y Gymraeg - Myfyriwr): Pan ddaeth i Aberystwyth o’i gartref yn ne ddwyrain Lloegr, doedd gan Jeff ddim gair o Gymraeg ond ar ôl dewis byw ym Mhantycelyn, aeth ati’n frwd i ddysgu a dod yn ymgyrchydd egnïol dros Blaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg. Dros y blynyddoedd, mae Jeff hefyd wedi cyflawni sawl rôl ar bwyllgor UMCA ac wedi llawn ymrwymo i ddiogelu diddordebau’r Undeb a’r gymuned Gymraeg oddi mewn i’r Brifysgol. Mae hefyd yn Gynghorydd Tref Aberystwyth.