Modiwl newydd i hybu Cyflogadwyedd

Rhes flaen, o'r chwith i'r dde: Mrs Lesley Oldale (NHS Cymru), Kate Thomas (Wales & West  Housing), Yr Athro Jo Crotty (Prifysgol Aberystwyth), Caroline Jackson (Wales & West Housing) a Yr Athro Nicholas Perdikis (Prifysgol Aberystwyth)  Rhes gefn, o'r chwith i'r dde: Rob Bowen (Prifysgol Aberystwyth), Dr Ola Olusanya (Prifysgol Aberystwyth), Barry Rees (Cyngor Sir Ceredigion) a Carly Hodson (Wales & West Housing)

Rhes flaen, o'r chwith i'r dde: Mrs Lesley Oldale (NHS Cymru), Kate Thomas (Wales & West Housing), Yr Athro Jo Crotty (Prifysgol Aberystwyth), Caroline Jackson (Wales & West Housing) a Yr Athro Nicholas Perdikis (Prifysgol Aberystwyth) Rhes gefn, o'r chwith i'r dde: Rob Bowen (Prifysgol Aberystwyth), Dr Ola Olusanya (Prifysgol Aberystwyth), Barry Rees (Cyngor Sir Ceredigion) a Carly Hodson (Wales & West Housing)

05 Ebrill 2017

Modiwl newydd i hybu Cyflogadwyedd

Mae’r Athrofa Busnes a'r Gyfraith wedi lansio modiwl newydd i hybu cyflogadwyedd myfyrwyr.

Bydd y modiwl achrededig Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol yn darparu lleoliadau gwaith strwythuredig yn ystod y tymor ar gyfer myfyrwyr Busnes a'r Gyfraith yn eu trydedd flwyddyn.

Dywedodd yr Athro Jo Crotty, Cyfarwyddwr yr Athrofa, "Rwy'n teimlo'n gyffrous iawn ein bod yn dod â nifer o gyflogwyr lleol at ei gilydd i roi cyfle i fyfyrwyr gael profiad gwaith ymarferol fel rhan o'u gradd. Mae hyn yn unigryw ymysg rhaglenni busnes a'r gyfraith yng Nghymru a gyda chefnogaeth mor arbennig gan fyfyrwyr a staff, mae'n sicr o fod yn llwyddiant mawr."

Dywedodd Dr Olaoluwa Olusanya, arweinydd y modiwl ac Uwch Ddarlithydd yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth, "Mae'r modiwl Sgiliau Cyflogadwyedd yn gyfle gwych i fyfyrwyr y Gyfraith a Busnes sy’n eu blwyddyn olaf i gael golwg go iawn ar y gweithle a bod yn rhan go iawn o ddarn o waith neu brosiect. Mae cyflogwyr yn rhoi pwyslais mawr ar brofiad ymarferol a bydd y modiwl hwn yn ychwanegu gwerth at broffil sgiliau ein myfyrwyr, gan ychwanegu at y rhai a ddatblygwyd yn ystod eu rhaglenni gradd a thrwy weithgareddau allgyrsiol."

Ychwanegodd Robert Bowen, sy’n Ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Aberystwyth a chydlynydd y modiwl: "Mae darparu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau o safon i’n myfyrwyr yn cynyddu eu gwybodaeth o ddiwydiant neu sector, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am ddewisiadau gyrfa yn y dyfodol. Mae hefyd yn ffurfio rhan bwysig o feithrin perthynas adeiladol rhwng y Brifysgol a sefydliadau lleol a rhanbarthol."

Fel rhan o'r lansiad, rhoddodd y siaradwr gwadd Simon Millership o gwmni ecwiti preifat Opcapita gipolwg ar fyd y gwasanaethau ariannol gan gynnig awgrymiadau i fyfyrwyr fyddai â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y maes hwn. Dywedodd Simon 'Rwy’n hapus iawn i ddod o'r Ddinas i gefnogi lansio menter bwysig fel hon. Mae'r byd mawr yn fyd cystadleuol tu hwnt, ac mae angen i fyfyrwyr fachu ar bob cyfle er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn cael yr yrfa maen nhw’n ddymuno ei gael.

Mae’r Athrofa Busnes a'r Gyfraith yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau lleol, masnachol, llywodraeth ac elusennol i gynnig ystod o leoliadau gwaith proffesiynol o ansawdd uchel i fyfyrwyr.

Fel un o brif gyflogwyr Aberystwyth, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig hyd at 18 o leoliadau ar hyd a lled y cyngor ac mewn amryw o wahanol feysydd gwaith.

Meddai Elen James, Pennaeth Ymgysylltu â Phobl Ifanc ac Addysg Barhaus Cyngor Sir Ceredigion: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Aberystwyth ac yn falch o gynnig y cyfleoedd hyn i fyfyrwyr. Rydym yn credu y gallwn ni fel Cyngor elwa ar eu gwybodaeth ac rydym yn gobeithio y byddant yn elwa ar ein profiad."

Mae Wales & West Housing, y darparwyr tai cymdeithasol mwyaf blaengar yng Nghymru, wedi bod yn gweithio gyda'r Brifysgol i ddatblygu'r modiwl.

Meddai Louise Webster o Wales & West Housing: "Rydym yn falch o fod yn rhan o lansiad Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol. Gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, rydym wedi treialu modiwl amlddisgyblaethol addysg gyfreithiol clinigol sy'n seiliedig ar y cleient. Mae'r modiwl hwn wedi galluogi myfyrwyr i gael cipolwg a dealltwriaeth o dai cymdeithasol a thai â chymorth drwy brofiad uniongyrchol o astudiaethau achos go iawn a chysgodi amrywiaeth o weithwyr proffesiynol yn y maes. Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r myfyrwyr."

Mae'r modiwl newydd ar Sgiliau Cyflogadwyedd yn rhan o ystod eang o raglenni, prosiectau a chymorth a gynigir gan Brifysgol Aberystwyth i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr.

Mae'r fenter arloesol, rhaglen AberYmlaen yn cyfuno profiad gwaith amser llawn o fewn adran academaidd neu wasanaeth proffesiynol gyda gweithdai datblygiad proffesiynol a chefnogaeth unigol.

Mae manylion Cynllun Haf AberYmlaen 2017 ar gael yma.