Prifysgol Aberystwyth ar restr deg prifysgol orau Whatuni

Roedd Prifysgol Aberystwyth ymlith y deg uchaf yng nghategori Prifysgol y Flwyddyn yng ngwobrau dewis myfyrwyr Whatuni Student Choice Awards 2017.

Roedd Prifysgol Aberystwyth ymlith y deg uchaf yng nghategori Prifysgol y Flwyddyn yng ngwobrau dewis myfyrwyr Whatuni Student Choice Awards 2017.

13 Ebrill 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith y deg prifysgol orau yn y DU yn ôl gwobrau dewis myfyrwyr What Uni Student Choice Awards 2017.

Roedd y Brifysgol yn yr wythfed safle yng nghategori Prifysgol y Flwyddyn ac yn y categori Rhyngwladol, fe gipiodd y Wobr Arian yn seremoni wobrwyo flynyddol Whatuni a gynhaliwyd yn Llundain 5 Ebrill 2017.

Mae tablau cynghrair myfyrwyr Whatuni yn seiliedig ar gyfartaleddau dros 27,000 o adolygiadau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr mewn 127 o brifysgolion y DU.

Mae’r adolygiadau yn bwrw barn ar safon Llety, Bywyd Dinesig, Clybiau a Chymdeithasau, Cyrsiau a Darlithwyr, Prospects Job, Undeb y Myfyrwyr, Cyfleusterau, Gwasanaethau Cymorth, sgôr cyffredinol 'Prifysgol y Flwyddyn', a Rhyngwladol.

Roedd Aberystwyth ar restr fer mewn cyfanswm o bum categori - Prifysgol y Flwyddyn, Llety, Cyrsiau a Darlithwyr, Rhyngwladol ac Ôl-raddedig.

Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno dros 900 adolygiadau ar wefan whatuni.com. Dyma rai o'u sylwadau sydd wedi cyhoeddi ar wefan What Uni Student Choice Awards 2017:

“Profiad gorau fy mywyd. Mae wedi fy ngalluogi i gwrdd â phobl newydd a theithio i lefydd newydd fel fy mlwyddyn dramor yn America ac mae’r diwylliant cymdeithasu yn sefyll allan fel gwahaniaeth allweddol o’i gymharu â phrifysgolion eraill ac mae wedi creu’r person yr ydw i heddiw "- Anastasis Knight, Daearyddiaeth Ddynol BA (Anrh)

“Mae fy mhrofiad prifysgol hyd yn hyn wedi bod yn anhygoel. Mae'r brifysgol yn berffaith o ran maint  ac mae'r dref yn cynnig bywyd nos a gweithgareddau cymdeithasol gwych. Rwyf wedi mwynhau bob eiliad o fod yn y brifysgol hyd yma ac yn methu aros i weld beth yw'r dyfodol i mi ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyma’r penderfyniad gorau erioed i fi ei wneud." Hannah Poole, Bioleg BSc (Anrh)

"Dwi wir yn mwynhau fy hun, ac yn falch iawn fod wedi gwneud y penderfyniad i ddod yma. Rwyf wedi dysgu mwy na gwybodaeth, rwyf wedi dysgu sgiliau bywyd ac wedi  cyfarfod pobl wych / cymryd rhan mewn pethau na fydden i fel arfer wedi gwneud" - Richard Haskell, Ecoleg BSc (Anrh)

“Ers y funud i mi gyrraedd, dwi wedi gwneud ffrindiau newydd oherwydd fy llety a fy nghwrs. Mae pawb wedi helpu ei gilydd i setlo a gwneud yn siŵr ein bod ni yno i gynnal ein gilydd. Rwyf wedi cael profiadau newydd ac atgofion, a dwi’n gobeithio y byddai’n cael  llawer mwy. Y rheswm dros ddewis Aberystwyth oedd y bywyd cymunedol a’r cwrs oedd yn edrych yn ddiddorol iawn. Rwy'n edrych ymlaen at y ddwy flynedd nesaf ac yn gobeithio astudio ar gyfer gradd Meistr yma" - Angharad Mair, Troseddeg BSc (Anrh)

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor dros faterion Rhyngwladol a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Rydym yn falch iawn bod yr adolygiadau gan y myfyrwyr sy'n dysgu ac yn byw yma yn Aberystwyth wedi’n gosod ni yn gadarn ar restr Whatuni o’r deg Prifysgol y Flwyddyn a hynny ledled DU gyfan.  Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac rydym yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr eu bod yn cael y profiad gorau posibl. Mae hynny'n golygu cynnig addysg o safon sy’n cael ei arwain gan ymchwil, gwasanaethau cymorth o ansawdd uchel, cyfleusterau ardderchog, a pharatoad priodol ar gyfer eu gyrfaoedd ar ôl graddio.

"Mae’n Gwobr Arian yn y categori Rhyngwladol hefyd yn anrhydedd, yn enwedig gan ein bod yn gwybod ei fod yn seiliedig ar farn ein myfyrwyr rhyngwladol. Rydym yn ymfalchïo yn y gymuned fyd-eang sydd gennym yn Aberystwyth ac rydym wedi bod yn croesawu myfyrwyr o dramor ers ein sefydlu nôl yn y 19eg ganrif. "

Dywedodd Marcella Collins, Rheolwr Gyfarwyddwr y DU Grŵp Hotcourses, rhiant-gwmni Whatuni.com: “Un o'r beirniadaethau mwyaf cyffredin a glywn gan fyfyrwyr yw ei bod yn rhy anodd iddynt lywio’i ffordd drwy dirwedd Addysg Uwch, ac felly dyma sydd bellach yn ein gyrru.  Rydym yn cyflwyno data hanfodol i fyfyrwyr mewn ffordd sy'n hawdd iddynt ei ddeall ac yn eu cynorthwyo i wneud penderfyniadau addysgiadol sydd yn trawsnewid eu bywydau.”

Yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2016, sy’n adlewyrchu barn israddedigion yn eu blwyddyn olaf, cafodd Prifysgol Aberystwyth ei gosod ar y brig yng Nghymru ac ymhlith y pedair prifysgol orau o’i bath yn y DU ar gyfer boddhad cyffredinol.

Roedd Aberystwyth hefyd ar y brig yng Nghymru am brofiad myfyrwyr a rhagoriaeth addysgu yn nhablau cynghrair The Times and Sunday Times Good University Guide 2017