Myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn cipio Gwobr Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn

Kieran Stone (canol) yn derbyn ei wobr oddi wrth y noddwr Andy Brown o FDM Group a’r awdur a’r cyflwynydd teledu Konnie Huq.

Kieran Stone (canol) yn derbyn ei wobr oddi wrth y noddwr Andy Brown o FDM Group a’r awdur a’r cyflwynydd teledu Konnie Huq.

25 Ebrill 2017

Mae myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd y brig yng Ngwobrau Myfyrwyr Israddedig y Flwyddyn TARGETjobs.

Fe gipiodd Kieran Stone, sy’n astudio Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg, y wobr ar gyfer Myfyriwr Israddedig Cyfrifiadureg, TG a Ffiseg y Flwyddyn.

Derbyniodd Kieran y wobr oedd wedi ei noddi gan FDM Group gan yr awdur a’r cyflwynydd teledu Konnie Huq mewn seremoni yn Canary Wharf, Llundain ddydd Gwener 22 Ebrill 2017.

Wrth siarad am ei lwyddiant, dywedodd Kieran: “Rwyf wrth fy modd gyda hyn oll. Roedd y broses ddewis yn cynnwys cyfweliad ffôn a phrofion ar-lein anodd iawn ac nid oeddwn yn meddwl fy mod wedi cyrraedd y rownd derfynol. Roedd cael fy nghoroni’n enillydd yn syndod mawr gan fod safon y rhai eraill yn y rownd derfynol yn anhygoel.

“Mae hyn yn hwb aruthrol i’m hyder ac mae fy llwyddiant yn adlewyrchu'r sgiliau gwych yr ydym ni fel myfyrwyr cyfrifiadureg yma ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eu dysgu - sgiliau y mae galw amdanynt ymysg cyflogwyr.”

Fel rhan o'i wobr, mae Kieran yn ennill interniaeth mis o hyd yn swyddfeydd yr FDM Group yn Llundain a’i fwriad yw mynd yno yn yr haf wedi iddo gwblhau ei astudiaethau yn Aberystwyth.

Cafodd Kieran ei ysbrydoli i astudio roboteg yn dilyn ymweliad â’r Gadget Show Live, ac fe ddewisodd Aberystwyth wedi gweld yr adnoddau, ac yn arbennig y labordy roboteg a wnaeth gryn argraff arno, yn ystod diwrnod agored.

Yn wreiddiol o Banbury yn Swydd Rhydychen, roedd hefyd yn teimlo'n gartrefol yn Aberystwyth, gan ddisgrifio’r dref fel ei "gartref oddi cartref '.

Yn ystod ei drydedd flwyddyn, treuliodd Kieran gyfnod o 12 mis yn gweithio gyda chwmni gweithgynhyrchu electronig ABACO Systems yn Towcester.

Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar ei brosiect flwyddyn olaf sy'n canolbwyntio ar brofi ystadegol a chloddio data.

Dywedodd Dr Bernard Tiddeman, Pennaeth yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Llongyfarchiadau mawr i Kieran ar ennill y wobr fawreddog hon a'r interniaeth sy'n dod gyda hi. Mae Kieran wedi dangos cryn fenter wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth heb son am ei hennill, ac rwy siŵr fod ei brofiadau o astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi chwarae rhan bwysig yn ei lwyddiant. Yn benodol, mi fydd ei flwyddyn mewn diwydiant gydag ABACO Systems fel rhan o'i radd mewn Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg, a'r cyfleoedd i ymgysylltu gyda’r gymuned allanol, ynghyd â'r agweddau technegol o’i radd, wedi cyfrannu ar ei lwyddiant. Rydyn ni’n dymuno’n dda iddo yn y dyfodol ac yn hyderus y bydd yn adeiladu ar ei lwyddiant.”

Sefydlwyd Gwobrau Myfyrwyr Israddedig y Flwyddyn TARGETjobs wyth mlynedd yn ôl ac fe ddaeth 3,441 o geisiadau o brifysgolion ledled y DU i law eleni.

Roedd tri chymal i’r broses asesu gan gynnwys asesiad ar-lein gyda phrofion rhesymu sefyllfaol, rhifiadol ac anwythol, ac asesiad personol gyda noddwr y gwobrau unigol cyn llunio rhestr fer o ddeg ar gyfer y rownd derfynol ym mhob un o’r deuddeg categori.

Ar gyfer Gwobr Myfyriwr Israddedig Cyfrifiadureg, TG a Ffiseg y Flwyddyn, roedd Kieran yn wynebu cystadleuaeth gan fyfyrwyr o brifysgolion Essex, Abertay, Dundee, Birmingham, Manceinion, Queen Mary (Prifysgol Llundain) ac Imperial.

Dywedodd Simon Rogers, cyfarwyddwr cwmni GTI sy’n gyfrifol am TARGETjobs: "Mae'r 12 enillydd wedi cyflawni cymaint eisoes, ac mae pob un yn dangos ymroddiad, uchelgais a haelioni sy’n golygu eu bod yn sefyll allan ymysg eu cyfoedion. Maen nhw’n dystiolaeth o’r doniau eithriadol sydd gan bobl ifanc y DU i'w cynnig heddiw.”

Cafodd Gwobrau Myfyrwyr Israddedig y Flwyddyn TARGETjobs eleni eu noddi gan gyflogwyr graddedigion amlwg yn cynnwys ACCA, Barclays, Deutsche Bank, Enterprise Rent-A-Car, E.ON, FDM, First Names Group, Gazprom, Laing O'Rourke, L'Oréal a Rolls-Royce.

Mae rhestr lawn o Wobrau Myfyrwyr Israddedig y Flwyddyn TARGETjobs a mwy o wybodaeth ar gael ar-lein yma.

Yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf (2016) derbyniodd yr Adran Gyfrifiadureg sgôr clodwiw o 91% am foddhad cyffredinol myfyrwyr, a’i chynnwys yn yr 15 uchaf yn y DU.

I gael gwybod mwy am astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth cliciwch yma.