Digwyddiad Celfyddyd Sain - y Beibl yn Siarad

26 Ebrill 2017

Bydd yr Athro John Harvey o'r Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnal digwyddiad celfyddyd sain unigryw yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol dros Ŵyl Banc Calan Mai.

Cynhelir y digwyddiad stiwdio agored sef 'The Talking Bible' dros gyfnod 24-awr o ganol dydd Llun 1 Mai tan ganol dydd Mawrth 2 Mai.

Dyma'r drydedd ran ym mhrosiect Y Beibl Clywedol, sef prosiect tair-blynedd a arweinir gan yr Athro Harvey.

Esboniodd John:  "Bydd y digwyddiad yn defnyddio recordiad o'r Beibl yn cael ei ddarllen ar lafar gan yr actor Americanaidd, Alexander Scourby (1913-85), a recordiwyd ym mis Gorffennaf 1964. 

"Ar y pryd, y recordiad hwnnw o bob un o'r 66 llyfr yn y Beibl oedd y tro cyntaf erioed i rywun geisio recordio sain y testun cyfan. Fe'i comisiynwyd gan Sefydliad Deillion America, yn rhan o'u cyfres o Lyfrau Siarad, ac fe'i cyhoeddwyd mewn pum cyfrol o recordiau hirion (LP).

"Nod prosiect y Beibl Clywedol yw ymdrin yn greadigol â'r testun llafar anferth hwn.  Yn ystod y digwyddiad stiwdio agored hwn, byddaf yn prosesu sain y recordiau, gan ddefnyddio technoleg DJ, modylyddion effeithiau, a chyfrifiaduron, â'r bwriad o gynhyrchu deunydd ar gyfer cyfansoddi."

Yn ystod y digwyddiad, caiff ymwelwyr ddod i wrando ar y gwaith, a siarad â John ynghylch ei fwriadau a'r prosesau.

Bydd y digwyddiad hwn yn adeiladu ar syflaen gwaith blaenorol yng nghyfres Y Beibl Clywedol, sef cynnyrch partneriaeth gydweithredol rhwng Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru ac Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

 

AU15617